Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 23 Mawrth 2021.
Roeddech chi'n gwneud mor dda yn y fan yna. Hyd at y sylw olaf, fe'm calonogwyd. Pryd bynnag y clywaf David Rowlands yn croesawu nodau canmoladwy, rwy'n aros am 'ond' mawr, a chawsom yr 'ond' ar y diwedd gyda'i ymgyrch yn erbyn ein hymdrech i geisio achub bywydau plant rhag cael eu lladd yn ddiangen ar y ffordd. Yn sicr, nid oedd y dystiolaeth a ddeilliodd o'n hadolygiad ein hunain ar derfynau cyflymder trefol diofyn o 20 mya yn cefnogi'r farn eu bod yn cynyddu allyriadau'n sylweddol.
I ymdrin â rhai o'r sylwadau eraill, cytunwyd ar y benthyciad gyda chyngor Blaenau Gwent, mae wedi ymrwymo i'r dasg dan sylw, ac rydym yn gweithio'n agos gyda nhw. Rwyf yn cytuno â'i sylw o ran gwneud y newid graddol o ddefnyddio ceir tuag at ddewisiadau eraill, ac mae'n amlwg nad yw'n rhywbeth sy'n berthnasol i bob taith. Nid ydym yn dweud na ddylai pobl fyth ddefnyddio ceir eto. Yn amlwg, y car yw'r dewis mwyaf ymarferol ar gyfer rhai teithiau, ond, ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau—mae'r ymchwil yn eithaf clir ynglŷn â hyn—mae trafnidiaeth gynaliadwy yn ddewis realistig, ar yr amod bod y seilwaith ar waith, bod gwasanaethau ar waith, a bod yr wybodaeth a'r cymhellion ar waith i annog pobl i wneud y newid hwnnw. Mae llawer o dystiolaeth a phrofiad o ble y gall hynny ddigwydd. Ceffyl da yw ewyllys. Nid oes angen iaith sy'n sôn am gosbi pobl; nid yw hwn yn ymwneud â dewis cosbi. O'i wneud yn iawn, gall hyn gyfoethogi a gwella bywydau pobl a gwella teithiau pobl, lleihau straen pobl a gwella iechyd pobl—mae defnyddwyr bysiau'n cerdded mwy na defnyddwyr ceir. Felly, mae'n dda i ystod eang o dargedau iechyd cyhoeddus sydd gennym ni. Mae'n iawn i ddweud na fydd yn addas i bawb, ond nid oes angen i bawb wneud hynny i gyflawni ein targedau. Fel y dywedais, rydym yn sôn am ostyngiad o 5 y cant mewn milltiroedd ceir erbyn 2030; nid yw hyn y tu hwnt i'r hyn y gellir ei gyflawni, yn sicr.
Mae ei sylw bod ceir trydan yn ddrud hefyd yn un cadarn. Dyna pam yr ydym ni eisiau sicrhau bod dewis amgen fforddiadwy a realistig drwy drafnidiaeth gyhoeddus. Credaf mai'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld mewn gwirionedd yw i bobl beidio â bod angen sawl car fesul cartref. Felly, mae pethau fel clybiau ceir a rhannu ceir, er enghraifft, yn hytrach nag ail neu drydydd car ar aelwyd, yn bethau realistig a all ddod â phobl gyda ni ar hyd y sbectrwm newid ymddygiad mewn ffordd nad yw'n teimlo ei fod yn cyfyngu ar eu dewisiadau. Yn wir, mae'n rhoi dewisiadau ychwanegol iddyn nhw ac yn rhyddhau arian ar eu cyfer, oherwydd car yw'r ail beth drutaf y bydd deiliad tŷ yn ei brynu, ar ôl tŷ, fel y mae Caroline Jones newydd ei ddarganfod, rwy'n siŵr.