Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 23 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gydweithwyr, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i bob un ohonom ni. Newidiodd ein ffordd o fyw y tu hwnt i bob adnabyddiaeth wrth i ni ddysgu byw gyda pherygl presennol coronafeirws. Mae'r effaith gronnol ar ein llesiant wedi bod yn enfawr, a hyd yn oed yn fwy felly i'n plant a'n pobl ifanc. Ofn salwch, effaith ffyrlo neu golli swyddi ar yr oedolion o'u cwmpas, gwahanu oddi wrth eu cylchoedd teulu a chyfeillgarwch ehangach, a'r effaith ar eu trefn arferol, dim ond gallu mynychu'r ysgol—bydd y cyfan wedi bod yn frawychus iawn, iawn.
Fodd bynnag, os oes un peth cadarnhaol y gallwn ni ei ddysgu o'r flwyddyn ddiwethaf, gadewch iddo fod yn fater o lesiant, yn enwedig o ran plant a phobl ifanc, a swyddogaeth addysg wrth eu cefnogi. Mae bellach yn cael ei gydnabod yn llawn. Mae iechyd emosiynol a meddyliol bellach wrth wraidd addysg, ac mae iechyd a hyder plant yn un o bedwar diben canolog addysg yng Nghymru. Mae meithrin cydnerthedd dysgwyr yn allweddol i hynny.
Nid swyddogaeth ysgolion yw cynhyrchu plant sydd â chrap ar algebra neu ar ddyddiadau allweddol mewn hanes yn unig. Maen nhw yno i helpu i feithrin cydnerthedd, gan eu paratoi ar gyfer dyfodol pryd bydd ein holl bobl ifanc yn wynebu heriau, cyflawni llwyddiannau, ond weithiau'n profi siomedigaethau. Rwy'n falch iawn, fel y mae Aelodau eraill, rwy'n siŵr, fod y Senedd hon wedi pleidleisio'n ddiweddar i gefnogi cwricwlwm cenedlaethol newydd sy'n sicrhau bod iechyd a llesiant yr un mor bwysig â phynciau a meysydd dysgu mwy traddodiadol.
Yn gynharach y mis hwn, lansiais ein fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol, a fydd yn cefnogi'r cwricwlwm newydd. Bydd y canllawiau statudol yn galluogi ysgolion, wrth iddyn nhw adolygu eu hanghenion llesiant, i ddatblygu cynlluniau i adeiladu ar eu cryfderau a mynd i'r afael ag unrhyw wendidau a gwerthuso effaith eu gwaith.
Gadewch imi fod yn glir: nid ydym ni'n ceisio gwneud y broses o dyfu i fyny a'r system addysg yn bethau meddygol. Yr hyn yr ydym ni'n gofyn i athrawon a staff ysgolion ei wneud yw'r hyn y mae llawer eisoes yn ei wneud yn naturiol—y pethau bach, sy'n cael yr effaith fwyaf ar fywydau plant. Er enghraifft, cyn y cyfyngiadau symud, cynhaliodd Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath ym Mhen-y-bont ar Ogwr glwb rhedeg ar ddydd Gwener ar gyfer staff a dysgwyr. Roedd hwn yn gyfle, i'w rannu gan staff a dysgwyr o unrhyw allu, i fynd i redeg gyda'i gilydd yn yr ardal leol yn ystod yr egwyl amser cinio. Roedd hynny'n hybu perthynas gadarnhaol a gwerthoedd a rennir ac, wrth gwrs, buddion gwirioneddol i iechyd a llesiant dysgwyr a staff.
Yn ei hanfod mae ein fframwaith newydd yn ymwneud â datblygu perthynas ymddiriedus rhwng dysgwyr â'i gilydd a rhwng dysgwyr ac athrawon, staff ehangach yr ysgol ac, yn wir, ar draws cymuned yr ysgol gyfan. A phan ceir adegau, fel y ceir yn anochel, pan fydd athrawon yn dod ar draws rhywbeth anghyffredin a thu hwnt i'w set sgiliau benodol, yna byddan nhw'n gwybod lle i fynd i gael cymorth priodol yn brydlon.
Mae'r rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc a arweinir gan y GIG yn datblygu fframwaith cymorth cynnar a chymorth gwell. Mae hyn yn disgrifio'r cymorth sydd ar gael i feithrin cydnerthedd a system gymorth. Ynghyd â'n fframwaith ysgol gyfan, bydd hyn yn sicrhau bod y system gyfan bellach yn gweithio'n ddi-dor i ddiwallu anghenion llesiant pob plentyn.
I gefnogi gweithredu ein fframwaith ysgol gyfan, rydym ni wedi cynyddu ein cyllid yn y maes hwn 360 y cant dros dair blynedd, gyda chyllid yn dod o'r adran addysg a'r gyllideb iechyd, gan ddangos yr ymrwymiad trawsadrannol i'r gwaith hwn, sydd wedi bod yn gwbl hanfodol. Byddwn yn defnyddio'r arian ychwanegol y flwyddyn nesaf, fel y gwnaethom ni yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, i gefnogi ysgolion, awdurdodau lleol ac eraill i sicrhau gwelliannau gwirioneddol mewn cymorth llesiant; er enghraifft, drwy wella ac ehangu ein gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion, sydd ar hyn o bryd yn gweld tua 11,500 o blant a phobl ifanc bob blwyddyn.
Rydym wedi bod yn adolygu effaith yr £1.2 miliwn ychwanegol a ddarparwyd gennym ar gyfer y gwasanaeth yn y flwyddyn gyfredol. Hyd yn hyn, mae'r 18 awdurdod lleol sydd wedi ymateb wedi ein hysbysu bod ein cyllid wedi galluogi bron i 13,500 o sesiynau cwnsela ychwanegol hyd at ddiwedd mis Mawrth, gan alluogi dros 5,500 yn fwy o blant i gael cymorth.
Nawr, er bod y fframwaith wedi'i anelu at ysgolion, mae'r egwyddorion sy'n sail iddo yr un mor berthnasol mewn lleoliadau eraill, megis addysg bellach ac addysg uwch. Mae cefnogi iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr a staff yn hanfodol os ydym am fynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad a chynyddu cyfleoedd i gyflawni llwyddiant addysgol. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig rydym ni wedi buddsoddi dros £56 miliwn i gefnogi iechyd meddwl a llesiant mewn colegau a phrifysgolion. Mae ein prifysgolion yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyda Llywodraeth Cymru drwy'r fframwaith colegau a phrifysgolion iach a chynaliadwy i sicrhau bod pob agwedd ar fywyd prifysgol wedi'i chynllunio i ddarparu'r lefel uchaf o gymorth i fyfyrwyr. Mae'r dull prifysgol gyfan hwn o ymdrin ag iechyd meddwl yn golygu y sicrheir bod iechyd meddwl a llesiant da yn rhan greiddiol o holl weithgareddau'r brifysgol fel rhan o'u cynnig i fyfyrwyr ac i'r gyfadran.
Ac rydym wedi comisiynu Estyn i gynnal adolygiad thematig o lesiant dysgwyr addysg bellach yn ystod pandemig COVID. Bydd cyllid yn arwain at adnoddau'n cael eu lledaenu ar draws y sector yn ystod 2021, gan gynnwys pecynnau cymorth a gomisiynwyd i gefnogi dulliau coleg cyfan o ymdrin â chamddefnyddio sylweddau a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Dirprwy Lywydd, i gloi, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod llesiant wrth wraidd ein system addysg gyfan, a chredaf o ddifrif fod Cymru bellach yn arwain y ffordd. Hoffwn gloi drwy gofnodi fy niolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu gwaith yn y maes hwn a hefyd aelodau o'n grŵp gorchwyl a gorffen, sydd wedi helpu i lywio ein gweithgarwch. Diolch yn fawr.