Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 24 Mawrth 2021.
Credaf y gallai'r rhain hefyd fod yn welliannau eithaf pwysig ac nid wyf yn hollol siŵr pam eu bod yn cael eu gwneud. Credaf fod rhai ohonynt yn synhwyrol, fel y cyfeiriadau at y comisiynwyr a'r ombwdsmon. Mae dileu'r rheini a chael darpariaeth gyffredinol yn hytrach na cheisio diweddaru ar gyfer pob comisiynydd neu ombwdsmon penodol yn ymddangos yn synhwyrol.
Ond ar hyn o bryd, mae gennym reol sy'n caniatáu i'r Llywydd benderfynu y gellir codi mater sy'n ymwneud ag achosion barnwrol gweithredol. Ac mae ein Rheolau Sefydlog wedi datgan y gellir codi'r mater os yw'r Llywydd yn fodlon ei fod yn amlwg yn ymwneud â mater o bwys cyhoeddus, neu benderfyniad gan Weinidog, a chredaf fod hynny'n synhwyrol. Heb hynny, mae gennym sefyllfa lle gall unrhyw un hawlio adolygiad barnwrol—gallwch gyflwyno un o'r rheini ac mae cynsail na ddylai'r gost drwodd i'r cam caniatâd fod yn fwy na chwpl o £1,000 efallai ac weithiau gall hynny gymryd sawl mis—ac ar ôl gosod yr hawliad hwnnw, mae hynny wedyn yn achos gweithredol yn y llys, ac fel deddfwrfa, ni allwn drafod unrhyw fater y mae hynny'n ymwneud ag ef.
Credaf fod hynny'n rhy eang o lawer, yn enwedig ym maes adolygiadau barnwrol sy'n cwestiynu penderfyniadau awdurdodau cyhoeddus. Os bydd Gweinidog yn penderfynu rhywbeth sy'n destun dadl wleidyddol a bod rhai ohonom yn ei gefnogi ac eraill heb fod yn ei gefnogi, a'n bod am barhau i drafod y rhinweddau, mae'n ymddangos y byddai'r newid hwn yn y Rheolau Sefydlog yn darparu ar gyfer torri'r drafodaeth honno ar Aelodau etholedig am fod un dinesydd preifat, dyweder, yn penderfynu hawlio adolygiad barnwrol. Ni all hynny fod yn iawn yn fy marn i. Mae yna eithriad yn y Rheol Sefydlog newydd a gynigir, ond mae'n llawer culach. Ac wrth gwrs y dylem drafod deddfwriaeth, neu is-ddeddfwriaeth, ond pam ar y ddaear na allwn drafod penderfyniad sydd wedi'i wneud gan Weinidog sy'n ddadleuol am fod rhywun arall mor wrthwynebus iddo fel eu bod yn hawlio adolygiad barnwrol? Ceir cyfeiriad,
'ac eithrio i'r graddau a ganiateir gan y Llywydd', ond mae'n eithriad llawer culach. Mae sefyllfaoedd lle dylai'r Llywydd ystyried caniatáu i ddadl barhau hyd yn oed os oes mater gerbron y llysoedd wedi'u nodi bellach, a phan nad ydynt wedi'u nodi, rwy'n credu y bydd yn llawer anos i Lywydd ganiatáu i drafodaeth o'r fath barhau.
Yn amlwg, ar hyn o bryd, mae'n iawn fod gennym gyfyngiadau ar faterion sy'n mynd gerbron rheithgor neu achos ar fater teuluol, ond ar gyfer achosion eraill lle mae gennych farnwr neu farnwyr yn eistedd, yn enwedig ym maes adolygiadau barnwrol, credaf fod y syniad na allwn ni fel deddfwyr drafod unrhyw faterion o'r fath yn anghywir. Mae'r perygl y bydd ein dadl yn dylanwadu ar y barnwr neu'r barnwyr yn fach iawn yn fy marn i ac mae'n rhywbeth y gallent ymdrin yn hawdd ag ef. Rwy'n credu bod dyfarnu na chawn drafod hyn o gwbl yn hollol anghywir. Mae gennym ffyrdd cwbl synhwyrol o ymdrin â'r mater ar hyn o bryd—mae gennym eitem arno yn nes ymlaen—a chredaf y dylai'r dulliau hynny barhau, yn hytrach na newid y Rheolau Sefydlog mewn ffordd gwbl ddiangen.