Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 24 Mawrth 2021.
Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle i gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron. Mae cyflwyno trethi Cymreig, ymestyn pwerau benthyca, a gweithredu'r fframwaith cyllidol wedi bod yn ddatblygiadau sylweddol ar gyfer tymor y Senedd hon. Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn adlewyrchiad amserol o'r hyn a gyflawnwyd hyd yma, ac yn bwysicach, o'r hyn sydd i'w wneud o hyd. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at amrywiaeth o faterion allweddol, a materion ar gyfer y tymor hwy mewn llawer o achosion. Rwy'n falch o dderbyn 11 o'r 12 argymhelliad a derbyn mewn egwyddor argymhelliad 11, sy'n dweud mai Cyfrifoldeb Trysorlys EM yw cyflawni.
Mae argymhellion 1 i 3 yn mynd i'r afael â'r mater heriol o godi ymwybyddiaeth o drethi Cymreig ymhlith dinasyddion a sefydliadau. Er bod y cynnydd o 14 y cant mewn ymwybyddiaeth o gyfraddau treth incwm Cymreig yn galonogol, cytunaf y dylai Llywodraeth Cymru barhau i ddatblygu'r gwaith hwn, gan ymgysylltu, lle bo'n briodol, â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a'r Senedd.
Fel yr adlewyrchir yn argymhelliad 4, ceir rhyng-gysylltiadau pwysig rhwng trethiant a pholisïau eraill, ac un o'r rhai mwyaf allweddol yw'r ffordd rydym yn cryfhau sylfaen drethi Cymru. Rhoddir crynodeb o waith diweddar Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn fy adroddiad diweddaraf ar bolisi treth yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn. Fodd bynnag, bydd hon yn parhau i fod yn ystyriaeth bwysig ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n falch bod y pwyllgor yn cytuno, yn argymhelliad 5, y dylai Llywodraeth Cymru gael pwerau deddfwriaethol i weithredu'n gyflym a lle bo angen i ymateb i newidiadau i'r polisi treth. Dylai'r hyblygrwydd hwn atal colli refeniw treth a gwyrdroi ymddygiad economaidd.
Mae fy ymateb ysgrifenedig i argymhelliad 6 yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o archwilio dichonoldeb cael treth gwerth tir leol yn lle'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Rhoddir rhagor o fanylion yn fy adroddiad, 'Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru: Crynodeb o'r Canfyddiadau', a gyhoeddais ddiwedd mis Chwefror.
Yn fy ymateb ysgrifenedig, roeddwn yn falch o nodi barn Llywodraeth Cymru ar ddatganoli treth ar enillion cyfalaf i Gymru, fel y gofynnwyd amdani yn argymhelliad 7. Mae pryderon am ganlyniadau anfwriadol, heriau ymarferol, a'r effaith bosibl ar ffrydiau refeniw Cymru, ynghyd â'n profiad hyd yma o'r broses o ddatganoli trethi newydd, yn golygu nad yw hon yn dreth y bwriadwn geisio ei datganoli ar yr adeg hon.
Mewn ymateb i argymhelliad 8, rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill ar lunio set ddata incwm hydredol a fyddai'n ein galluogi i olrhain effeithiau cyfraddau treth incwm Cymreig. Disgwyliwn i CThEM ddatblygu hyn yn ystod y chwe mis nesaf. Rwyf wedi darparu ymateb ysgrifenedig i argymhelliad 9 sy'n gofyn sut rydym yn adolygu gwaith CThEM i leihau gwallau codio. Er fy mod wedi bod yn falch o weld y gostyngiad yn nifer y gwallau dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf, bydd hwn yn parhau i fod yn fater pwysig i'w fonitro. Mae argymhellion 10 ac 11 yn adlewyrchu rôl a chyfrifoldebau pwysig Llywodraeth y DU i roi eglurder a sicrwydd i Lywodraeth Cymru ynghylch cyllid. Rydym yn parhau i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU dros adolygiadau gwariant aml-flwydd a mwy o sicrwydd a rhybudd ynghylch amseriad digwyddiadau cyllidol y DU, fel y nodir yn argymhelliad 10. Cytunaf yn llwyr ag argymhelliad 11 y pwyllgor y dylid cael mwy o dryloywder ynghylch penderfyniadau ariannu. Fodd bynnag, cyfrifoldeb Trysorlys EM yw cyflawni ei ymrwymiadau i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mewn ymateb i argymhelliad 12, rwy'n derbyn y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyfrifiadau o'r symiau canlyniadol a gafwyd yn sgil cyhoeddiadau gwariant Llywodraeth y DU. Er, fel yr amlygwyd yn fy ymateb ysgrifenedig, yn aml gall diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU ei gwneud yn anodd amcangyfrif yr effaith y tu allan i ddigwyddiadau cyllidol.
Hefyd, rwy'n croesawu'r pum casgliad y daeth y pwyllgor iddynt yn ei adroddiad. Rwy'n ategu ei ganmoliaeth i Awdurdod Cyllid Cymru, sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn y broses o gyflwyno trethi Cymreig, yn enwedig llwyddiant ei fuddsoddiad technolegol. Rwy'n falch o nodi ystyriaeth y pwyllgor fod strategaeth dreth Llywodraeth Cymru wedi sicrhau, ar y cyfan, fod trethi Cymreig yn deg i'r busnesau a'r unigolion sy'n eu talu, ac mae hon yn egwyddor allweddol ar gyfer trethi Cymreig. Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth y pwyllgor i gynyddu terfynau benthyca cyfalaf, mwy o hyblygrwydd wrth ddefnyddio cronfa wrth gefn Cymru a mwy o dryloywder mewn penderfyniadau ariannu a wneir gan Lywodraeth y DU, ac mae'r rhain i gyd yn feysydd rydym wedi bod yn mynd ar eu trywydd gyda Llywodraeth y DU.
Hoffwn hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor nad wyf eto wedi cael ymateb i fy llythyr at Lywodraeth y DU ynglŷn â sefydlu porthladdoedd rhydd yng Nghymru, llythyr a anfonais ar 4 Chwefror. Roedd y llythyr yn mynegi parodrwydd Llywodraeth Cymru i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU ac yn nodi'r amodau y byddai angen eu bodloni. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau ein hymrwymiadau i waith teg ac y byddai gwaith diogelu'r amgylchedd yn cael ei gynnal a sicrwydd y byddai unrhyw borthladd rhydd yng Nghymru yn cael yr un lefelau ariannu ag a ddarperir yn Lloegr, ac rwy'n siomedig nad wyf wedi derbyn ymateb eto.
Felly, i gloi, Lywydd, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Cyllid am ei adroddiad ac am y ffordd drylwyr ac adeiladol y mae wedi ymgymryd â'i rôl yn craffu ar y modd y cafodd pwerau Deddf Cymru 2014 eu gweithredu dros y pum mlynedd diwethaf. Diolch yn fawr.