Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 24 Mawrth 2021.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd am ei gyflwyniad. Dylwn ddweud hefyd ein bod wedi bod yn ddiolchgar am ei arweinyddiaeth drwy gydol y Senedd hon hefyd, oherwydd, ers iddo ddod yn Gadeirydd, mae wedi arwain y pwyllgor fel Cadeirydd mewn ffordd sydd wedi dangos grym y system bwyllgorau a phŵer ei esiampl ei hun fel Cadeirydd. Rydym yn ddiolchgar iawn iddo am hynny, ac yn ddiolchgar hefyd i ysgrifenyddiaeth y pwyllgor a staff ymchwil am eu gwaith caled.
Gobeithio eu bod yn gwybod ei fod yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Yn ei gyflwyniad, gwnaeth y Cadeirydd ein pwyntiau'n glir iawn, a chredaf fod adroddiad y pwyllgor yn glir yn ei gasgliadau, ac nid oes angen fawr o esboniad pellach ar lawer o'r pwyntiau a wnaethpwyd yn yr adroddiad hwnnw a'r argymhellion y cytunwyd arnynt gan y pwyllgor. Fel aelodau eraill o'r pwyllgor, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru am eu hymagwedd hael tuag at yr adroddiad ac am dderbyn rhai o'n hargymhellion allweddol.
Mae'r pwyllgor yn llongyfarch Llywodraeth Cymru ar weithredu'r trethi newydd a ddatganolwyd i'r lle hwn. Mae'n ymddangos bod yr holl strwythurau treth newydd wedi'u hymgorffori'n gymharol hawdd a heb fawr ddim aflonyddwch, os o gwbl. Nid wyf wedi gweld fawr ddim tystiolaeth, os o gwbl, fod ein sefydliadau neu'r trethdalwyr wedi profi anawsterau o ganlyniad i'r newidiadau i'r system drethu, ac mae hyn yn bwysig, oherwydd mae'n dangos y gallwn newid strwythurau treth y Deyrnas Unedig yn sylfaenol a gwneud hynny heb yr aflonyddwch y mae llawer o bobl yn ei ofni ac y mae rhai gwleidyddion yn sicr yn ceisio'u cymell a chreu'r ofnau hynny. Mae wedi'i wneud yn gymharol syml a chymharol hawdd, a'i wneud am y tro cyntaf yn y ffordd honno, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt sylfaenol bwysig i'w wneud.
Ceir un agwedd nad yw wedi gweithio, wrth gwrs, sef y broses a ddisgrifiwyd gan y Cadeirydd yn rhan olaf ei sylwadau ynghylch trethiant newydd. Nid yw wedi gweithio oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi ei atal rhag gweithio, ac rwy'n credu bod angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â hynny hefyd. Mae rhai ohonom, Ddirprwy Lywydd, yn ddigon hen i gofio dyddiau ofnadwy'r Gorchmynion cydsyniad deddfwriaethol a'r cynigion y treuliasom amser yn eu trafod yn Senedd 2007. Mae arnaf ofn ein bod yn dychwelyd at y dyddiau hynny heb ddysgu dim o wersi'r dyddiau hynny, ac yn sicr mae'n rhoi cyfle i'r rheini sydd ag awydd penodol i lesteirio ewyllys pobl Cymru, ewyllys Llywodraeth Cymru ac ewyllys ein Senedd, a chredaf fod hynny'n rhywbeth rydym yn ei weld yn digwydd ar hyn o bryd. Ond rydym yn bwriadu cymryd rhan yn y ddadl hon.
Hoffwn droi fy sylw hefyd at yr ohebiaeth a gawsom y bore yma gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys. Mae'n llythyr eithriadol mewn sawl ffordd, Ddirprwy Lywydd. Mae ar wahanol adegau yn haerllug, yn arwynebol, yn fawreddog, yn nawddoglyd, yn sarhaus, yn ddirmygus, yn rhwysgfawr—gallwn barhau, ond nid wyf am brofi amynedd pawb drwy wneud hynny. Ond yn fwy na dim, mae'n ymateb cwbl annigonol i'r materion a godwyd gan y pwyllgor, ac mewn sawl ffordd, mae'n tanlinellu'r pwyntiau a wnaethpwyd yn gynharach heddiw gan dri Gweinidog cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'n gwneud yr achos yn fwy pwerus nag y gallwn i ei wneud dros ailwampio fframwaith cyllidol y Deyrnas Unedig yn sylfaenol. Ddirprwy Lywydd, gwrandewch ar yr iaith a ddefnyddir gan yr Ysgrifennydd cyllid yn y llythyr hwn. Ym mharagraff 10, 'Hyblygrwydd ariannol':
Rwyf wedi darparu hyblygrwydd ychwanegol sylweddol eleni, meddai—'Rwyf wedi darparu'. Ac mae'n parhau ym mharagraff 11:
Darparais warant ddigynsail o gyllid ymlaen llaw.
Ac mae'n parhau:
Cytunais hefyd y gallai Llywodraeth Cymru gario cyllid sy'n seiliedig ar Barnett yn ei flaen.
Mae hyn yn dangos yn glir nad oes sgwrs, dim negodi, dim democratiaeth, a fawr ddim atebolrwydd yn ein fframweithiau ariannol a'n strwythurau ariannol yn y Deyrnas Unedig. Rhaid bod hyn yn annerbyniol i unrhyw un sy'n credu yn nyfodol y Deyrnas Unedig a dyfodol democratiaeth ac atebolrwydd yn y Deyrnas Unedig. Ni all strwythurau ariannol y DU a'r berthynas rhwng y Llywodraethau ar yr ynysoedd hyn gael eu pennu gan fympwy un Gweinidog, pwy bynnag y mae'r Gweinidog hwnnw'n credu ydyw. Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio—sylwais ar yr wyneb hwnnw, fe fyddaf yn gyflym—y byddwn yn gallu gweld yr adroddiad hwn nid fel pen draw, ond fel man cychwyn ar gyfer strwythurau ariannol y Deyrnas Unedig a diwygio ac adfywio democrataidd.
Wrth gloi, rwy'n dymuno ymddeoliad hir a hapus iawn i chi, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn gweld colli rhoi prawf ar eich amynedd os caf fy ailethol i'r Senedd nesaf.