Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 24 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr iawn. Dwi eisiau diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad, wrth gwrs, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi siarad yn y ddadl yma. Dwi eisiau diolch yn arbennig, hefyd, i'r Gweinidog, nid yn unig am ei hymateb hi heddiw, ond am y modd y mae hi wedi ymwneud â gwaith y pwyllgor dros y blynyddoedd diwethaf. Mae yn sicr wedi cyfoethogi a bod yn help mawr i'n hystyriaethau ni fel pwyllgor. A gan fod Aelod neu ddau wedi cyfeirio at y Dirprwy Lywydd, dwi'n awyddus i ategu'r dymuniadau gorau a diolch i chi, hefyd, am y cyfraniad mawr rŷch chi wedi'i wneud i waith y Senedd yma dros nifer o flynyddoedd. Yn sicr, mi fydd yna golled ar eich ôl chi.
Jest i bigo lan ar un neu ddau o'r sylwadau'n sydyn, o fewn y cyfyngiadau amser. Mae'n glir bod y broses o ofyn am gymhwysedd dros drethi newydd ddim yn gweithio. Tair blynedd, fel yr oeddwn i'n ei ddweud wrth agor y ddadl, ar ôl gofyn am gymhwysedd dros dreth ar dir gwag, dŷn ni dal ddim callach; dŷn ni ddim yn teimlo ein bod ni fymryn yn nes i'r lan. Ac, os oes yna fwriad am resymau gwleidyddol i wrthod, wel, dywedwch hynny, Lywodraeth y Deyrnas Unedig, achos mae rhywun yn teimlo weithiau ein bod ni'n mynd rownd mewn cylchoedd. Os oes yna broblemau ac os oes yna gwestiynau dilys i'w gofyn, gofynnwch nhw, neu, fel arall, dywedwch yn syth beth yw'ch bwriad chi.
Mae ambell Aelod wedi cyfeirio at y ffaith bod y pandemig, wrth gwrs, wedi amlygu rhai o'r gwendidau yn y trefniadau cyllidol. Wel, gadewch inni felly roi'r rheini mewn trefn. Un o'r pethau sydd wedi fy siomi i fwyaf, a dweud y gwir, dros y flwyddyn ddiwethaf yw ein bod ni'n cael un dehongliad o beth maen nhw'n ei ddyrannu i Gymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac ein bod ni'n cael dehongliad gwahanol iawn o beth maen nhw'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. A dyw hynny ddim yn adlewyrchu'n dda ar ddim un o'r ddwy Lywodraeth, heb sôn, wrth gwrs, am y fframwaith cyllidol a'r setliad datganoli. Mae e i gyd yn amlygu, yn fy marn i, pa mor annigonol yw'r trefniadau sydd yn eu lle.
Nawr, mae arwyddocâd cyfansoddiadol yr adroddiad a'r ddadl yma, i fi, yn mynd i galon datganoli, ac mae e yn sicr yn mynd i galon y berthynas weithredol rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru. Gallaf i ddim ond pwysleisio y bydd yn rhaid cymryd camau ychwanegol, wrth gwrs, yn ystod y chweched Senedd, i gefnogi'r gwaith o ymgysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac rŷn ni fel pwyllgor wedi awgrymu, yn ein hadroddiad gwaddol, bod y Pwyllgor Cyllid nesaf yn gweithio gyda'r Llywodraethau datganoledig eraill a chyda Phwyllgor Materion Cymreig San Steffan er mwyn trio annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymgysylltu yn well â'r darnau hynny o waith sy'n berthnasol iddyn nhw; dŷn ni ddim yn disgwyl iddyn nhw ddod ger ein bron ni bob tro rŷm ni'n teimlo ein bod ni eisiau clywed ganddyn nhw. Ond yn sicr pan dŷn ni'n sôn am Ddeddf Cymru 2014 a'r fframwaith cyllidol, mae rôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwbl greiddiol i'n hystyriaethau ni ynglŷn â sut mae'r broses a'r trefniadau hynny'n gweithio neu beidio.
Nawr, mae craffu ar faterion cyllidol yn un o'n cyfrifoldebau mawr ni fel Aelodau o'r Senedd, a dwi eisiau diolch o waelod calon i bob Aelod sydd wedi cyfrannu at waith y pwyllgor dros y bum mlynedd ddiwethaf. Mae hefyd wedi bod yn fraint cael cadeirio y Pwyllgor Cyllid. Ond dwi yn cadw'r diolch olaf a'r diolch mwyaf i'r rhai sydd wedi gweithio y tu ôl i'r llenni, y rhai sydd wedi gweithio'n dawel o'r golwg i gefnogi'n gwaith ni ar y pwyllgor. Ac mae'r tîm clercio, tîm clercio'r pwyllgor, o dan arweiniad Bethan Davies, a thîm ymchwil y Senedd wedi bod yn gefn mawr inni fel Aelodau ac wedi sicrhau bod gwaith y pwyllgor yn raenus ac yn effeithiol bob tro. Gwnaf gloi, felly, drwy ddweud wrthyn nhw yn benodol, ar ran holl aelodau presennol ac aelodau blaenorol y Pwyllgor Cyllid, diolch o galon i chi i gyd.