Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 24 Mawrth 2021.
Gwnaf. Ym mis Mehefin 2020, creais grŵp gorchwyl a gorffen i archwilio dichonoldeb cynigion a gyflwynwyd gan Brifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer ysgol gwyddorau meddygol ac iechyd yng ngogledd Cymru. Mae'r gwaith hwn bellach wedi symud ymlaen i ddatblygu achos busnes llawn, ac fel y gwyddoch, mae fy mhlaid wedi addo sicrhau yn yr etholiad sy’n dod fod hwnnw’n cael ei gwblhau’n llwyddiannus.