Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 24 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:55, 24 Mawrth 2021

Mae'r wythnos yma'n wythnos o gofio, wrth gwrs, ac yn wythnos o fyfyrio flwyddyn union ar ôl dechrau'r cyfnod clo cyntaf. Mae Prif Weinidog Prydain wedi cyfaddef ei fod o wedi gwneud rhai penderfyniadau anghywir wrth ddelio efo'r pandemig, ond dwi ddim am ofyn y cwestiwn cyfatebol i'r Gweinidog. Beth dwi eisiau i'r Gweinidog ei wneud ydy edrych yn ôl ar yr 20 mlynedd a mwy o reolaeth Llafur o'r gwasanaeth iechyd a gofal yn arwain at y pandemig. Un wers rydyn ni wedi'i dysgu ydy bod gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru ddim yn ddigon gwydn i ddelio efo pandemig. Ydy'r Gweinidog yn derbyn na all yr un Llywodraeth arall fforddio gadael gwasanaethau hanfodol mewn cyflwr mor fregus eto?