Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 24 Mawrth 2021.
Diolch, Lywydd. Diolch. Weinidog, rwy’n credu bod eich blaengynllun COVID-19 a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn grynodeb teg iawn o'r sefyllfa sy'n ein hwynebu yng Nghymru heddiw. Rwy'n credu ei fod yn amlinellu'n daclus yr heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Ond rwyf hefyd yn teimlo ei fod yn brin iawn o atebion allweddol y mae'n rhaid i ni eu gweld. Felly, er enghraifft, a allech chi egluro pa gynlluniau penodol sydd gennych ar waith i ymdrin â'r argyfwng sy’n gwaethygu mewn perthynas ag amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau dewisol?