Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 24 Mawrth 2021.
Rwy'n cytuno'n llwyr. Ac mae’r Aelod yn gywir i dynnu sylw at y ffaith bod Llafur Cymru wedi gwneud y gwaith caled fel Llywodraeth ar ehangu cyfleoedd addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru. Rydym wedi gwneud hynny'n llwyddiannus. Mae'n brif addewid maniffesto uniongyrchol clir: os pleidleisiwch dros Lafur Cymru, byddwn yn gweld ysgol feddygol yng ngogledd Cymru yn cael ei chwblhau’n llwyddiannus—mwy o gyfleoedd i hyfforddi ac aros yng Nghymru, ac yn hollbwysig, byddant yn gweithio ochr yn ochr â'r ysgolion meddygol sydd gennym eisoes yn Abertawe a Chaerdydd, yn darparu'r hyn y credaf y bydd yn addysg feddygol o ansawdd uchel, ac i gadw meddygon i hyfforddi yng Nghymru, ac iddynt aros i hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru.