Anghydraddoldebau Iechyd

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 24 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:02, 24 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Un o uchelgeisiau canolog y Llywodraeth hon yw gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau annerbyniol mewn canlyniadau iechyd rhwng ein cymunedau mwyaf a lleiaf cefnog. Byddwn yn parhau i ddefnyddio dull Llywodraeth gyfan o fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd.