Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 24 Mawrth 2021.
Rydym yn cydweithio gyda'r bwrdd iechyd, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynllunio ar gyfer parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac allweddol, ochr yn ochr â gofalu am gleifion yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19, yn ogystal â gweithio tuag at ddarparu gwasanaethau ehangach a mwy rheolaidd wrth gwrs, lle a phan fo'n ddiogel i wneud hynny.