Gwasanaethau Iechyd yn y Rhondda

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 24 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:17, 24 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae Cwm Taf Morgannwg yn parhau i ymateb gydag ystwythder ac arloesedd i’r galw ac i’r pwysau yn sgil y pandemig i gynnal a gwella gwasanaethau iechyd. Mae'r bwrdd iechyd yn cynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau hanfodol ac allweddol yn barhaus ochr yn ochr â’r gwaith o ofalu am gleifion yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19. A bydd yr Aelod yn ymwybodol o glwstwr Rhondda o feddygon teulu a'r ffordd y maent wedi llwyddo i aildrefnu'r ffordd y maent yn darparu triniaethau er mwyn sicrhau eu bod yn ystyried anghenion y pandemig.