Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 24 Mawrth 2021.
Diolch. Credaf fod hon yn ddadl fer iawn ar gyfer adroddiad eithaf hir a darn pellgyrhaeddol iawn o ddeddfwriaeth. Ond beth bynnag, gadewch inni roi cynnig arni. Mae'n anodd gwneud cyfiawnder ag ehangder y ddeddfwriaeth yn y ddadl hon, ond mae'n rhywbeth y bydd angen inni ddod yn ôl ato yn sicr. Rwy'n credu ei bod wedi torri llwybr newydd yn bendant ac yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol, ac os na fyddai'n bodoli, byddai'n rhaid i ni ei dyfeisio a dweud y gwir, o ystyried maint yr heriau sy'n ein hwynebu yn awr. Hoffwn ddiolch i'r tîm clercio a'r staff ymchwil, a fu'n ymwneud yn frwdfrydig iawn â'r ymchwiliad hwn ac a gasglodd y cyfoeth o dystiolaeth a gawsom, ar lafar a/neu'n ysgrifenedig, ar draws Cymru gyfan, oherwydd yn amlwg, bu'n rhaid cymryd yr holl dystiolaeth yn rhithwir.
Mae'n amlwg ei fod yn waith sy'n mynd rhagddo, ond mae'n debyg mai pethau fel y cynllun 'Llwybr Newydd' sydd newydd gael ei gyhoeddi yw'r enghraifft orau o Lywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio. Ac rwy'n credu mewn gwirionedd fod y cynllun hwnnw'n gyson ac yn gredadwy iawn mewn gwirionedd am ei fod wedi defnyddio'r Ddeddf i feddwl yn wirioneddol ddwfn am rywbeth mor gymhleth ag ailwampio'n llwyr y ffordd rydym yn symud o amgylch ein gwlad.
Roedd gan gynllun adfer y GIG lawer o nodweddion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol hefyd ac a dweud y gwir, os na all pob corff cyhoeddus gydweithio'n effeithiol, meddwl am y tymor hir, ac integreiddio, atal a chynnwys y cyhoedd yn yr heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y Senedd nesaf, fe fyddwn yn ei chael hi'n anodd dros ben, oherwydd bydd ein hadnoddau'n gyfyngedig a'r heriau'n enfawr.
Mae Nick eisoes wedi cydnabod bod y pandemig wedi gwneud i ni feddwl yn wahanol iawn ynglŷn â sut rydym yn gwneud pethau, ond ar ben hynny, mae gennym her newid hinsawdd a'r argyfwng natur yn hofran drosom hefyd, a'r tarfu ar y berthynas fasnachu sefydledig ag Ewrop. Felly, rydym yn wynebu heriau o sawl cyfeiriad.
Felly, mae rhai cyrff cyhoeddus ymhellach ar hyd y llwybr i fabwysiadu Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol nag eraill, ac mae rhai'n dal i ddadlau nad yw cyllidebau blynyddol yn caniatáu iddynt gynllunio ar gyfer y tymor hir nac ymrwymo i waith integredig a chydweithredol, ond er bod newidiadau ar yr ymylon o ran sut y dyrennir cyllidebau, mae eraill yn cydnabod yn llawn fod y gyllideb graidd ar gyfer busnes craidd pa gorff bynnag sydd dan sylw yn gwbl rhagweladwy, ac mae'n rhaid inni ddiolch i'r bobl a ddyfeisiodd Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol am ein hannog o ddifrif i feddwl sut y gallwn wneud pethau'n fwy effeithlon, sut y gallwn integreiddio mwy, sut y gallwn ddileu dyblygu ymdrechion yn y cyfnod heriol tu hwnt sydd o'n blaenau.