Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 24 Mawrth 2021.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i Bethan am ei harweiniad rhagorol fel Cadeirydd y pwyllgor. Rydych wedi arwain y pwyllgor gydag egni, brwdfrydedd ac ymrwymiad, ac mae hynny'n amlwg yn yr adroddiadau rhagorol y mae'r pwyllgor wedi'u cynhyrchu. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i Helen Mary Jones, a helpodd mor fedrus yn ystod eich cyfnod mamolaeth.
Rwyf am wneud dau bwynt. Mae'r cyntaf, mewn gwirionedd, yn cyfeirio'n ôl at waith anhygoel Alexis de Tocqueville yn y 1830au, a edrychai ar weithrediad democratiaeth Americanaidd. Dywedodd fod gwasg rydd ac egnïol yn gwbl hanfodol er mwyn i ddiwylliant democrataidd ffynnu, a chredaf fod y syniad hwnnw'n parhau i fod mor wir heddiw ag ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Felly, mae angen newyddiaduraeth o ansawdd da yng Nghymru, ac mae angen mwy o newyddiaduraeth leol. Rwy'n cymeradwyo ymdrechion y BBC yn hyn o beth, ond mae angen mwy ohono. Nid yw'n syndod mai un o'r datblygiadau mawr yn ystod cyfnod COVID yw bod llawer o bobl wedi dechrau sylweddoli graddau pwerau Llywodraeth Cymru dros iechyd y cyhoedd ac iechyd yn ehangach. Mae hynny'n arwydd o'r bwlch a fu mewn gwirionedd yn y sylw a roddwyd i wleidyddiaeth Cymru, ac nid yw'n gwasanaethu ein dinasyddion o gwbl mewn gwirionedd. Mae darlledu, y prif gyfrwng y dyddiau hyn, er mai papurau newydd a geid o'r blaen yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn allweddol i gadw ein democratiaeth yn iach.
Rwy'n gwneud yr ail bwynt fel aelod o'r pwyllgor yn hytrach na llefarydd fy mhlaid ar ddarlledu. Rwyf bob amser wedi meddwl bod sefyllfa S4C a darlledu yn y Gymraeg yn anghyson. Nid oes llawer o wledydd yn y byd sydd ag ieithoedd cenedlaethol corfforedig nad ydynt yn iaith fwyafrifol, ac sydd â systemau llywodraethu datganoledig ond sydd wedyn yn cadw'r swyddogaeth ddarlledu iaith leiafrifol yn ôl ar lefel y wladwriaeth. Maent i gyd yn ei ddatganoli, am mai dyna lle mae'r penderfyniadau'n cael eu gwneud orau. Caiff pobl eu dwyn i gyfrif, ond hefyd mae'n cyd-fynd â pholisi iaith ehangach, ymhell y tu hwnt i ddarlledu. Felly, rwy'n credu o ddifrif ei bod yn bryd inni edrych ar hyn a phwyso am ddatganoli S4C a darlledu yn y Gymraeg yn gyffredinol. Rwy'n dweud am fy mhlaid fy hun—rwy'n gwybod oherwydd roeddwn yn rhan o beth o'r drafodaeth—fod y blaid wedi bod â diddordeb mawr yn hyn o'r blaen, ac yn sicr mae Llywodraethau Ceidwadol wedi archwilio'r posibilrwydd o ddatganoli S4C, gyda bwriad mai dyna oedd yr opsiwn gorau. Ni allaf siarad ar ran Llywodraethau blaenorol o dan Lafur ar lefel y DU, ond rwy'n tybio eu bod hwy wedi edrych arno hefyd. Felly, credaf ei bod yn bryd inni gyflawni hynny, neu o leiaf ofyn amdano, a darparu'r math hwnnw o wasanaeth, oherwydd mai'r Senedd a Llywodraeth Cymru all roi'r sylw a'r amser sydd ei wir angen er mwyn i ddarlledu yn y Gymraeg ffynnu. Gallem fod mor llwyddiannus â chenhedloedd llai o amgylch Ewrop o ran ein hallbwn creadigol, yn ogystal â gwella ansawdd newyddiaduraeth.
Hoffwn orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy dalu teyrnged i chi. Ers 22 mlynedd, rydych wedi gwasanaethu eich plaid yn deyrngar fel eiriolwr tra galluog a thra hael, ond hefyd yn fywiog iawn pan oedd angen i chi ymrafael â phen mwy garw deialog wleidyddol—ond bob amser gyda haelioni a hiwmor mawr. Rydych wedi dangos yr haelioni a'r hiwmor hwnnw, ac awdurdod, os caf ddweud, yn eich rôl fel Dirprwy Lywydd, a byddwn i gyd yn edrych yn ôl gyda phleser a diolch mawr am eich gwasanaeth yn y Senedd hon. Diolch yn fawr iawn.