Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 24 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bwysicach nag erioed i sicrhau datganoli darlledu i Gymru, nid yn unig er lles ein democratiaeth, ond, fel mae'r pandemig wedi dangos, er lles ein hiechyd cyhoeddus hefyd. Mae Plaid Cymru felly yn croesawu'r adroddiad yma yn frwd iawn. Am y tro cyntaf yn hanes gwleidyddiaeth Cymru, mae gennym ni gonsensws trawsbleidiol o blaid datganoli o leiaf rhai elfennau o ddarlledu. Mae'n rhaid talu teyrnged arbennig i Bethan Sayed fel Cadeirydd y pwyllgor am ei harweinyddiaeth ar y mater penodol yma. Rwyt ti wedi bod yn gwthio'n galed dros hyn dros y pum mlynedd diwethaf, dwi'n gwybod. Diolch, Bethan, am dy angerdd, a diolch am dy ddyfalbarhad mewn sawl maes, ac yn benodol am dy rôl yn rhoi seiliau cadarn i'r pwyllgor yma fel rhan annatod o'n Senedd cenedlaethol i'r dyfodol.
Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro mai yn nwylo'r Senedd y dylai grym dros ddarlledu yng Nghymru fod, ac nid yn nwylo sefydliad San Steffan, sy'n gwybod braidd dim, ac yn poeni hyd yn oed yn llai am ein cymunedau ni. Ac i fod yn hollol glir, mi fyddai Llywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru yn ymrwymo i geisio sicrhau'r pwerau dros ddatganoli darlledu. A fydd y pleidiau eraill yn ymrwymo i wneud yr un peth? Wel, cawn ni weld yn reit fuan. Mi fyddai datganoli darlledu yn helpu'r bobl sy'n byw yng Nghymru i ddeall yn well yr hyn sy'n digwydd yn eu gwlad eu hunain, a pheidio gorfod derbyn camwybodaeth gan gyfryngau San Steffan, sy'n methu'n deg â deall datganoli, fel rydyn ni wedi'i weld yn rhy aml dros gyfnod y pandemig, gwaetha'r modd. Mi fyddai hefyd yn rhoi’r cyfle sydd mawr ei angen arnom i adeiladu cyfryngau Cymreig amrywiol, sy'n adlewyrchu anghenion a buddiannau'r Gymru fodern fel democratiaeth sy'n aeddfedu.
Gan droi at S4C, oes yna unrhyw wlad arall yn y byd yn rhoi'r pŵer dros ei phrif sianel a darlledwr cyhoeddus i wlad arall? Roedd hi'n dda gweld David Melding yn egluro yn wir nad ydy hynny ddim yn digwydd mewn gwledydd eraill. Mae S4C yn gweithredu yn unol â chylch gwaith sy'n cael ei bennu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd â dyletswydd statudol i sicrhau bod S4C yn cael cyllid digonol. Mi ddywedodd y pwyllgor bod hynny yn sefyllfa anarferol—bod y pwerau dros S4C yn gorwedd yn Llundain yn hytrach nag yn ein gwlad ni ein hunain. Mi roedd sefydlu S4C nôl yn 1982 yn hwb aruthrol—yn hwb aruthrol i'n cenedl ni, i'n hunaniaeth ni, ac i'n diwylliant ni. Roeddwn i'n digwydd bod yn lwcus i fod yn rhan o'r ymgyrch honno nôl yn yr 1980au. Mae yna lawer mwy angen ei wneud, ac mae yna lawer o waith i adeiladu ar lwyddiant bodolaeth S4C. Ond mae'n rhaid inni gydnabod bod yr hinsawdd wleidyddol yn hynod o fregus, ac mae'n rhaid inni fod yn wyliadwrus iawn, iawn ynglŷn â'r sianel.
Yn ôl yr adroddiad, mi ddylai'r chweched Senedd gynnwys pwyllgor sy'n trafod polisi'r cyfryngau fel rhan ganolog o'i gylch gwaith. Ac mi fyddwn i'n meddwl, yn y pen draw, fod angen llawer iawn mwy na phwyllgor; mae angen corff annibynnol o Lywodraeth er mwyn cael y drafodaeth honno ynghylch y cyfryngau yng Nghymru, a thrafodaeth debyg ynglŷn â sefydlu corff. Mae honno'n drafodaeth i'r Senedd nesaf erbyn hyn—