Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 24 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr, Ann, a diolch am y fraint o gael fy llywyddu gennyt ti ar y diwrnod olaf yn y lle hwn. Mae'n cyfeillgarwch ni a'n perthynas ni yn y gogledd, a lot o gydweithio gwleidyddol wnawn ni ddim sôn amdano fo heddiw, yn mynd yn ôl am ddegawdau. Rwyt ti wedi bod yn seren yn ein plith ni, ac yn arbennig felly yn y swydd llywyddu.
Dwi'n croesawu adroddiad y pwyllgor. Dwi'n ddiolchgar iawn amdano fo. Rydym ni wedi gweld pwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus a darlledu yn arbennig yn ystod yr argyfwng rydym ni'n dal i weithio ein ffordd drwyddo fo. Ac rydym ni wedi gweld mor bwysig yw cael cyfryngau datganoledig a lleol sydd yn gallu adrodd am argyfyngau iechyd cyhoeddus i'r boblogaeth sy'n cael ei heffeithio. Mae'n bwysig ein bod ni ddim yn anghofio'r cyfraniad yna a'n bod ni yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi digwydd y tro hwn.
Dwi hefyd yn ddiolchgar i'r cyfryngau am eu partneriaeth effeithiol gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r diwydiannau creadigol, oherwydd mae hynny yn allweddol i ni—bod y gwaith creadigol rydym ni wedi ei wneud yn gallu digwydd mewn perthynas agos gyda'r cyfryngau. A dyna sydd yn fy mhoeni i dipyn bach am y cynnig hwn ac am y sôn am ddarlledu. Dwi wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio'r gair 'darlledu' ers blynyddoedd, oherwydd y diweddar annwyl Euryn Ogwen, a ddysgodd lot o bethau i fi. Fo oedd y cyntaf a ddysgodd i fi bwysigrwydd y gair 'digidol'. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd y gair yn ei feddwl cyn i Euryn roi darlith gryno i fi am y peth. Ac ers hynny, dwi wedi ceisio edrych ar bob math o arwyddion diwylliannol sy'n cael eu gwneud ar draws llwyfannau a'u gweld nhw fel ffurfiau digidol sydd yn ddiwylliant newydd inni i gyd fod yn rhan ohono fo. Felly, dwi ddim yn meddwl bod yna ystyr mewn sôn am ddatganoli darlledu, ond mae yna ystyr mewn sôn am sicrhau fod yr holl fyd digidol a chyfathrebol yn gallu sicrhau lle i Gymru. Ac wrth gwrs, mae hynny'n haws erbyn hyn, yn y cyd-destun digidol, gan nad yw'r hen ddarlledwyr mawr gwladol—er bod gennym ni ddarlledwyr gwaeth rhyngwladol, efallai, na'r rhai gwladol—yn gallu cyrraedd y modd y mae pobl yn gallu cyfathrebu yn ddigidol.
Nawr, rydyn ni wedi bod yn gwneud ambell beth yn ystod y cyfnod yma i geisio sicrhau bod yna lais cryfach i Gymru ar lefel y Deyrnas Unedig. Mae gennym ni femorandwm o gyd-ddealltwriaeth gydag Ofcom ac ynglŷn â phenodiadau i Gymru. Ond y peth pwysicaf sydd wedi digwydd, wrth gwrs, yw cyhoeddiad chwyldroadol y BBC yr wythnos diwethaf ar y cynllun chwe blynedd i ail-greu'r BBC fel sefydliad gwirioneddol ddatganoledig sydd yn adlewyrchu, wel, diwedd y Deyrnas Unedig fel y gwyddom amdani—dyna sy'n digwydd, ac mae'r BBC yn fodlon arwain y ffordd ar hyn ac mae'r ymrwymiad cyhoeddus yma i'w groesawu. Felly, dwi'n edrych ymlaen am fwy a mwy o ddatganoli darlledu a datganoli'r byd digidol ac i Lywodraeth nesaf Cymru gyfrannu mwy hyd yn oed nag ydym ni wedi llwyddo ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf i ddylanwadu ar ran pobl Cymru ar y cyfryngau y maen nhw'n eu gwylio a'u gweld. Diolch.