24. Datganiadau i Gloi

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:36 pm ar 24 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 7:36, 24 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, Lywydd, codaf am y tro olaf fel un o'r rhai gwreiddiol, dosbarth 1999 sydd yma o hyd, heb eu tarfu gan weithredoedd Duw, yr etholwyr, na loteri system y rhestr ranbarthol. Ond o ddifrif, mae wedi bod yn bleser. Ond Lywydd, mae wedi dod ychydig yn rhy ffasiynol i ddibrisio gwleidyddiaeth, i ladd ar ddemocratiaeth, i danseilio ein Senedd a'n Llywodraeth ein hunain. Ac rwy'n cytuno efallai nad yw'n berffaith, ac nid wyf yn credu ein bod am gael system berffaith heb ddadl na thrafodaeth, sef yr hyn sy'n arwain at newid gwirioneddol, ond yr hyn a adeiladwyd gennym, yr hyn rydym yn ei adeiladu, yw democratiaeth sy'n addas i holl bobl ein gwlad. Nid yw byth yn rhywbeth sydd wedi ei wneud; mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i bob un ohonom barhau i'w wneud, parhau i'w berffeithio, parhau i'w ymestyn, ac rwyf mor falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr â chymaint o bobl eraill i gyfrannu at y prosiect hwnnw.

Rwy'n dal i gredu'n angerddol fod gwleidyddiaeth, fel y'i disgrifiwyd gan Robert Kennedy, yn broffesiwn anrhydeddus, ac mae anrhydedd mewn dod o hyd i dir cyffredin er lles cyffredin ar draws y pleidiau a'r polisïau. Mae pob plaid ddifrifol yn y Senedd wedi gwneud ei chyfraniad ei hun i newid a chyflawni dros Gymru dros fy nau ddegawd yma, ac er gwaethaf ein hieuenctid cymharol fel democratiaeth, mae hynny'n arwydd o'n haeddfedrwydd fel sefydliad a diwylliant gwleidyddol—bod yn ddigon dewr i gyfaddawdu a chydweithio mewn modd dibynadwy ac agored pan fydd yr achlysur yn mynnu hynny. Mae gwahaniaethau'n iach, ond yn bendant nid heb werthoedd sylfaenol, cwrteisi a pharch, ac wrth gynnal y parch hwnnw at ein gilydd, rhaid inni gofio bob amser fod y prosiect hwn yn fwy nag unrhyw un ohonom. 

Yn olaf, Lywydd, rwyf am gofnodi fy niolch i'r staff sydd wedi fy nghefnogi i a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros y blynyddoedd, mewn swyddfeydd etholaethol ledled y wlad ac yn y Senedd. Hoffwn ddiolch am gymorth y gwasanaeth sifil yma yng Nghymru yn ddiweddar. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau o'r Senedd am y cyfeillgarwch, y gwmnïaeth ac ie, am yr hwyl a gefais yma. Ac yn anad dim arall, wrth gwrs, hoffwn ddiolch i bobl Brycheiniog a Sir Faesyfed am eu cefnogaeth dros y ddau ddegawd diwethaf. Efallai fy mod yn rhagfarnllyd, ond nid oes gennyf amheuaeth nad ein hetholaeth ni yw'r orau y gallai unrhyw un fod wedi cael y fraint o'i chynrychioli. Diolch o galon.