Part of the debate – Senedd Cymru am 7:24 pm ar 24 Mawrth 2021.
Beth bynnag, rydym bellach yn cyrraedd yr eitem olaf ar yr agenda heddiw ac eitem olaf ein gwaith fel Senedd yn ystod y tymor pum mlynedd hwn, ac rydym ar fin clywed sylwadau gan yr Aelodau na fydd yn dychwelyd i'r Senedd. Hwy yw'r Aelodau sy'n gwybod yn awr na fyddant yn dychwelyd, ond fel y dywedodd Jocelyn Davies wrthym unwaith, nid yw'r gweddill ohonom yn gwybod eto a fyddwn yn dychwelyd ai peidio. Cafodd eraill eu hethol yn 2016 wrth gwrs ac nid ydynt yma heddiw, ac rydym yn eu cofio'n annwyl ac yn gweld eu colli'n fawr.