Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 24 Mawrth 2021.
Hoffwn i ddiolch i Jack Sargeant hefyd am roi cwestiwn mor bwysig gerbron, a thalu teyrnged i'w dad, Carl Sargeant, a oedd wedi fy helpu i pan wnes i gael nifer o broblemau gyda gorbryder yn sgil perthynas negyddol a dinistriol yn y gorffennol. Roedd e wedi bod yn gefn i fi, a heb ei gefnogaeth e, dwi ddim yn credu y buaswn i wedi dod mas mor gadarn ag yr ydw i wedi dod dros y blynyddoedd.
Ond mae fy nghwestiwn i ar anhwylderau bwyta. Dwi wedi treulio fy ngyrfa i gyd yn ymgyrchu ar anhwylderau bwyta, a dŷn ni wedi clywed gan Beat Cymru, sydd wedi gwneud gwaith clodwiw yn y maes yma, fod anhwylderau bwyta wedi tyfu yn ystod COVID. Mae'r gorbryder yna, eu bod nhw'n teimlo fel nad yw rhai o'r gwasanaethau ar gael iddyn nhw, eu bod nhw ddim yn cael y gefnogaeth sy'n angenrheidiol iddyn nhw, yn rhywbeth sydd yn ddybryd ar hyn o bryd. Dwi'n deall beth rydych yn ei ddweud, Weinidog, ynglŷn â siarad am iechyd meddwl, ond mae pobl wedi cael digon o siarad hefyd; maen nhw eisiau gweithredu. Ac mae yna ddiffyg gwasanaethau ar lawr gwlad i bobl sydd â llu o broblemau iechyd meddwl gwahanol.
Fy apêl i chi, ar fy niwrnod olaf i yn y Senedd, yw sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn gwella i'r dyfodol, fel nad yw pobl yn gorfod cael gwasanaethau preifat yn y dyfodol, fel nad ydyn nhw'n gorfod teimlo fel bod eu bywyd nhw mor wael eu bod nhw eisiau dod â'u bywyd nhw i ben, fel bod mamau newydd yn gallu cael y gefnogaeth sydd yn angenrheidiol iddyn nhw. Dyna yw fy apêl i chi fel Llywodraeth nawr ac i unrhyw lywodraeth sydd yn dod gerbron ym mis Mai.