Cefnogi Llesiant ac Iechyd Meddwl

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 24 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:33, 24 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, ddoe, nodais bryderon ynghylch cymorth i blant ifanc, a phlant sy’n mynd yn ôl i ysgolion, sydd wedi’i chael hi’n anodd, rwy'n credu, yn ystod y pandemig hwn, a sut y gallwn fod yn sicr fod digon o adnoddau ar gael iddynt allu elwa o therapïau siarad, therapyddion a chwnselwyr. Rwy'n poeni'n fawr ein bod yn dal i fod yn brin o'r niferoedd o gwnselwyr a therapyddion yn y maes hwnnw. Beth y gallwch ei wneud i sicrhau, wrth i blant ddychwelyd i ysgolion, wrth inni wynebu’r 12 mis nesaf, yn ôl pob tebyg, o heriau i rai o’r plant hyn, y bydd digon o therapyddion, a therapyddion siarad yn enwedig, ar gael i ateb y galw a ddaw yn sgil hyn?