Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 24 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:59, 24 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb caredig, Weinidog, ac yn sicr, hoffwn ategu'r deyrnged a roesoch i Dafydd Elis-Thomas.

Rwyf hefyd am ganmol Mind, sy'n gweithio'n agos gyda Hafal a sefydliadau eraill. Credaf fod y sector iechyd meddwl yn rhagorol yn ei waith cydweithredol—mae'r cyrff ymbarél yn effeithiol iawn am eu bod yn gweithio gyda'i gilydd. Un o'r prif bethau y maent yn gofyn inni ganolbwyntio arnynt—ni waeth pa blaid a ddaw'n Llywodraeth nesaf Cymru—yw'r angen am ymgyrch gwrth-stigma. Nawr, rwy'n siomedig yn yr ystyr fod hyn wedi'i godi yn holl etholiadau'r Cynulliad a'r Senedd yn y gorffennol, mae'n debyg, ac mae'n dal i fod yn broblem go iawn. Felly, a wnewch chi ategu fy ngobaith y bydd pwy bynnag sy'n Llywodraeth ym mis Mai yn rhoi hyn ar frig y rhestr?