Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 24 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:02, 24 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu eich bod yn canolbwyntio ar blaid y DU yn hytrach na Phlaid y Ceidwadwyr Cymreig, ond nid wyf eisiau diwedd cas i fy nghwestiynau. A gaf fi ddweud fy mod wedi cael fy annog gan gyfranogiad Llywodraeth Cymru gyda'r Comisiwn Elusennau yn y rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau, y gwyddoch efallai eu bod yn edrych ar gyfrifon segur, yn y bôn, ac yn ceisio trosglwyddo'r arian hwnnw lle bo'n briodol at ddibenion elusennol gweithredol. A ydych yn cytuno â mi y dylai elusennau iechyd meddwl gael blaenoriaeth uchel iawn wrth hyrwyddo'r rhaglen ragorol hon sy'n cael ei rhedeg gan y Comisiwn Elusennau?