Sector y Celfyddydau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 24 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:17, 24 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Mark. Mae Llywodraeth Cymru, drwy ein partneriaeth â'r cyngor celfyddydau statudol, yn darparu cyllid yn flynyddol i gefnogi'r celfyddydau ledled Cymru. Mae'r gronfa adferiad diwylliannol gwerth £63 miliwn wedi bod yn hanfodol i gefnogi llawer o sefydliadau, ac mae'n debyg mai'r enghraifft orau yng ngogledd Cymru yw'r buddsoddiad cychwynnol o £3 miliwn a ddarparwyd gennym fel Llywodraeth ar gyfer Theatr Clwyd.