Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 24 Mawrth 2021.
Rwy'n derbyn y cyfrifoldeb sydd gennyf ar hyn o bryd fel Gweinidog y celfyddydau dros Theatr Clwyd, ond hefyd fel rhywun sydd wedi cefnogi'r theatr ers ei sefydlu gyntaf, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych wedi'i ddweud am ei chyfraniad. Ond mae lleoliadau celfyddydol eraill ar draws y gogledd, fel Galeri yng Nghaernarfon, Ucheldre yng Nghaergybi, Pontio ym Mangor, Frân Wen, Theatr Bara Caws, Mostyn, Dawns i Bawb, Canolfan Grefft Rhuthun ac wrth gwrs, Canolfan Gerdd William Mathias. Mae gennym ystod eang o leoliadau celfyddydol a gweithgareddau celfyddydol rydym wedi ymrwymo i'w cefnogi, ac mae'r rhain i gyd yn rhan o Bortffolio Celfyddydau Cymru cyngor y celfyddydau. Ac rwy'n croesawu'n fawr y ffordd y mae cronfa loteri cyfalaf cyngor y celfyddydau yn gweithio ochr yn ochr â Phortffolio Celfyddydau Cymru cyngor y celfyddydau, ac rwy'n mawr obeithio y bydd hyn—wel, rwy'n sicr—y bydd hyn yn parhau, oherwydd mae Llywodraeth Cymru yn deall, fel y clywsom heddiw, fod diwylliant yn ganolog i weithgarwch Llywodraeth ddatganoledig.