Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 24 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, a gaf fi ddechrau drwy sôn am yr ymgysylltiad rydym wedi'i gael? Rwyf wedi mwynhau cysgodi'r briff hwn. Cawsom sesiynau briffio yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf ar yr heriau diwylliannol sy’n ein hwynebu o ran darparu cyllid. Fodd bynnag, hoffwn siarad am iechyd meddwl a chefais fy nghalonogi gan eich cyfeiriadau yn gynharach at y sector cyrff anllywodraethol. A wnewch chi ymuno â mi i ganmol pobl ifanc sydd o ddifrif ynglŷn â'u hiechyd meddwl, yn ogystal â derbyn y cymorth sydd ar gael gan ysgolion a sefydliadau fel y Sgowtiaid, sydd hefyd yn cymryd rhan yn y gwaith hwn bellach?