Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 12 Mai 2021.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i'r rhai a enwebodd ac a eiliodd fy enwebiad i'r swydd? Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr ac yn derbyn yr enwebiad.
Mae'n debyg bod yr Aelodau yma—mae dwy ran o dair ohonoch yn gwybod pwy ydw i ac yn gwybod am fy mhrofiad. I'r traean arall, nid wyf yn eich adnabod, ond byddaf yn dod i'ch adnabod, ym mha ffordd bynnag, yn ystod y pum mlynedd nesaf, ac rwy'n siŵr y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd yn dda. Bydd y rhai sy'n fy adnabod yn deall fy mod wedi bod yn ffodus i fod yn Gadeirydd yn ystod y ddau dymor y bûm yn y Senedd, ac rwy'n gobeithio fy mod wedi dangos, yn ystod y cyfnod hwnnw, pa mor deg wyf fi a fy ngallu i sicrhau bod pob Aelod yn cael cyfle i graffu ar bwy bynnag sydd ger ein bron a sicrhau bod Llywodraethau'n cael eu dwyn i gyfrif a bod y bobl sy'n cyflawni dros Lywodraethau yn cael eu dwyn i gyfrif—oherwydd dyna yw ein rôl ni fel Senedd.
Ein rôl yw sicrhau bod y Llywodraeth yn dweud wrthym ac yn cael ei dwyn i gyfrif gennym am yr hyn a wnânt a'r polisïau y maent yn eu gweithredu. Yn y Senedd ddiwethaf, pan oeddwn yn cadeirio'r pwyllgor materon allanol, bydd y rhai a oedd yno'n deall inni wneud yn glir ein bod yn sicrhau bod y lle hwn, y Senedd, yn ganolog i bopeth y dylem fod yn ei wneud. Mae hynny'n gweithio gyda Seneddau eraill hefyd, ac mae hynny'n hollbwysig wrth inni symud ymlaen.
Pan oeddwn yn gofyn am gefnogaeth ar gyfer y swydd hon, gofynnwyd i mi, 'Pam ydych chi am wneud hyn?', 'Pam nad ydych chi eisiau bod yn Gadeirydd, fel rydych chi wedi bod, a bwrw ymlaen â pholisïau?' Ystyriais hynny'n ofalus a meddwl, 'Mewn gwirionedd, rydych chi'n llygad eich lle; mae'n dda iawn bod yn Gadeirydd a chraffu ar waith y Llywodraeth.' Ond wedyn, fe gofiais mewn gwirionedd fod y rôl hon yn caniatáu i mi sicrhau bod gan bob Cadeirydd, pob Aelod, allu i graffu'n effeithiol ar y Llywodraeth ac i ddatblygu'r gwaith craffu hwnnw. Rwyf am sicrhau y gallwn wneud hynny. Wrth inni symud ymlaen ac wrth inni fwrw ymlaen â'r diwygiadau a ddechreuwyd gennym yn y Senedd ddiwethaf a pharhau â hwy, rwyf am sicrhau ein bod yn gwella'r Senedd hon i wneud yn siŵr y gall graffu'n effeithiol ar y Llywodraeth, y gall sicrhau ein bod yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif pan fyddant yn gwneud pethau'n anghywir, ac yn canmol y Llywodraeth pan fyddant yn gwneud pethau'n iawn. Dyna yw rôl y Senedd. Rydym yn cynrychioli pobl a wnaeth ymddiried ynom ddydd Iau diwethaf i wneud yn union hynny, a dyna beth rwyf am sicrhau ein bod yn ei wneud.
Fel Dirprwy Lywydd, byddaf yn gweithio'n agos gyda'r Llywydd, gobeithio, ond hefyd yn bwrw ymlaen â'r agenda o ran sut y gallwn ymestyn yr amrywiaeth sydd gennym yma. Rwy'n falch iawn o weld bod gennym y wraig groenliw gyntaf yma, a'i thad oedd y dyn croenliw cyntaf yma, ond dylem ymestyn hynny. Ni ddylech fyth fod yr un olaf. Rydym eisiau rhagor. Ein gwaith ni yw creu mwy o amrywiaeth yn yr hyn sydd yma nawr, a'i ymestyn.
Ac edrych hefyd ar yr agenda ieuenctid. Daeth y Llywydd â'r Senedd Ieuenctid i mewn yn y Senedd ddiwethaf. Roeddem i gyd yn ei chymeradwyo, ond dim ond 40 y cant yn fy etholaeth i a gofrestrodd i bleidleisio, o blith pobl ifanc 16 ac 17 oed. Mae angen inni ymgysylltu, a chredaf mai rhan o rôl y Dirprwy Lywydd fydd gweithio gyda'r Llywydd i gael yr ymgysylltiad hwnnw, er mwyn datblygu'r lle hwn fel ein bod yn adeiladu Senedd am genedlaethau i ddod.
Bûm yn darllen y dogfennau gan Laura McAllister a 'Senedd sy'n Gweithio i Gymru'. Dyna'r rôl sydd gennym. Rhaid inni adeiladu Senedd sy'n gweithio i Gymru. A thynnodd pwyllgor Dawn Bowden ar ddiwygio'r Senedd sylw at yr un peth. Os nad oes ots gennych, rwyf am ddyfynnu o'i hadroddiad. Ei rhagair hi ydyw—felly, Dawn, eich geiriau chi yw'r rhain:
'Mae’r pwerau a ddatganolwyd gan Ddeddf Cymru 2017 dros drefniadau etholiadol a sefydliadol y Senedd yn cynnig cyfleoedd i ni adfywio cyfranogiad yn ein prosesau democrataidd, a sicrhau bod gan ein Senedd y capasiti y mae arni ei angen i wasanaethu pobl a chymunedau Cymru.'
Y bobl a'r cymunedau a'n hetholodd ddydd Iau diwethaf i'w cynrychioli. Dyna'r hyn rwyf am ei weld yn digwydd, ac fel Dirprwy Lywydd rwyf am weithio gyda'r Llywydd i wneud yn siŵr y gallwn gyflawni'r nod hwnnw, er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn falch o'r sefydliad hwn a'i fod yn cyflawni dros bawb yng Nghymru. Diolch.