Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 12 Mai 2021.
Croeso nôl, a dyma ganlyniad y bleidlais ar gyfer y Dirprwy Lywydd: David Rees 35 o bleidleisiau, a Hefin David 24 o bleidleisiau. Ac felly, dwi'n datgan, yn unol â Rheol Sefydlog 6.9, bod David Rees wedi cael ei ethol yn Ddirprwy Lywydd y Senedd yma am y cyfnod nesaf. [Cymeradwyaeth.] Llongyfarchiadau, David.