Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 12 Mai 2021.
Rŷn ni nawr, felly, yn symud at ethol y Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau atgoffa'r Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 6.12, mai dim ond os yw'r enwebiadau o grŵp gwleidyddol gwahanol i fi ac o grŵp sydd â rôl Weithredol y bydd yr enwebiadau yn ddilys ar gyfer Dirprwy Lywydd. Felly, rwy'n gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 6.6 ar gyfer swydd y Dirprwy Lywydd. A oes enwebiad? Joyce Watson.