Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 12 Mai 2021.
Diolch yn fawr. Mark Drakeford wedi ei enwebu. A oes unrhyw enwebiad arall? Nac oes, does yna ddim. Ac felly, yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, dwi'n datgan bod Mark Drakeford wedi ei enwebu yn Brif Weinidog Cymru. Yn unol ag adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, byddaf i'n argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi Mark Drakeford yn Brif Weinidog Cymru. Ac rwy'n gwahodd Mark Drakeford i annerch ein Senedd. Mark Drakeford. [Cymeradwyaeth.]