Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 19 Mai 2021.
Diolch yn fawr am y cwestiwn ac am beth ddywedodd Luke Fletcher am Steffan Lewis. Mae lot ohonom ni fan hyn yn cofio Steffan, wrth gwrs, a ches i gyfle i gydweithio â fe pan oedd e'n llefarydd Plaid Cymru ar Brexit pan oeddwn i'n gwneud yr un gwaith tu fewn i'r Llywodraeth.