Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 26 Mai 2021.
Llywydd, diolch yn fawr. Mae pwysau sylweddol o ran nifer y tai sydd ar gael yn Ynys Môn. Yn ogystal â’r camau sydd ar waith yn barod—Cymorth i Brynu, swyddogion galluogi tai gwledig, a’r gronfa safleoedd segur, er enghraifft—byddwn ni’n cyflwyno cynigion newydd i helpu pobl o gymunedau lleol i gael tai, gan gynnwys cymunedau yn Ynys Môn.