Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 26 Mai 2021.
Wel, roedd y pennawd yn ddyfyniad o ddatganiadau i'r wasg a gyhoeddwyd gan ei blaid ef. [Chwerthin.] Efallai y dylai ddarllen ei ddatganiadau ei hun i'r wasg cyn iddo ddarllen y Western Mail, Llywydd. Mae fy rhoi i mewn pennawd yn y papur newydd a ysbrydolwyd gan ei blaid ef ei hun fel pe byddai hyn rywsut yn sylw teg, wel, yn wir, nid yw hynny'n ddechrau da, nac ydyw, i'w gwestiwn cyntaf ar y llawr yn y fan yma. A yw'n sylw teg? Wrth gwrs nad ydyw.