Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 26 Mai 2021.
Wel, Llywydd, mae'n rhaid i mi gytuno ag arweinydd Plaid Cymru fod y rhestr o gyhuddiadau yn erbyn Llywodraeth bresennol y DU yn un hir a difrifol. Y cynllun honedig i Gymru—cynllun a wnaed ar gyfer Cymru heb Gymru: heb unrhyw sgwrs â Llywodraeth Cymru wrth ei lunio; dim gwahoddiad hyd yn oed i unrhyw sgwrs gyda'r Ysgrifennydd Gwladol cyn ei gyhoeddi, na hyd yn oed wahoddiad i'w lansiad. Mae'n rhaid i mi ddweud, roedd yn fwriadol, roedd yn herfeiddiol a dyna'r hyn y bwriadwyd iddo fod. Nawr, dywedaf wrth yr Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr yn y fan yma, os ydym ni o ddifrif ynglŷn â dyfodol y Deyrnas Unedig—ac rwyf i yn sicr o ddifrif ynglŷn â'r pwnc hwnnw—ni allwn ffurfio dyfodol iddi os yw Llywodraeth y DU yn credu mai'r ffordd o wireddu'r dyfodol hwnnw yw trwy geisio gwyrdroi y setliadau y cytunwyd arnyn nhw mewn dau refferendwm yma yng Nghymru. Ac eto, bob dydd—bob dydd—dyna maen nhw'n ei wneud. Ac wrth iddyn nhw wneud hynny, bydd pobl sy'n credu mewn gwahanu Cymru oddi wrth y Deyrnas Unedig yn dod o hyd i'r dadleuon y mae arweinydd Plaid Cymru wedi eu gwneud eisoes y prynhawn yma.