Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 26 Mai 2021.
Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn yna. Bydd yr Aelod yn gwybod bod hwn—ail gartrefi—yn fater rydw i wedi cynnig gweithio yn drawsbleidiol arno'n benodol. Ysgrifennais at arweinydd Plaid Cymru yr wythnos diwethaf yn cadarnhau bod y Llywodraeth yn barod i ystyried nifer o faterion yn y ffordd honno, a dwi'n edrych ymlaen at y sgwrs rŷn ni'n mynd i'w chael cyn diwedd y prynhawn.
Rydw i wedi gweld cynllun pum pwynt Plaid Cymru, a dwi'n siŵr bod syniadau yn y cynllun yna y byddwn ni'n gallu gweithio arnyn nhw gyda'n gilydd. Dwi'n cytuno gyda beth ddywedodd Rhun ap Iorwerth. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio nifer o'r pethau sydd gyda ni ym maes trethi, ym maes cynllunio, a rhai pethau eraill—eu tynnu nhw gyda'i gilydd i drio gwneud gwahaniaeth yn y sefyllfa mae e wedi ei hesbonio y prynhawn yma, ac i'w wneud e, os gallwn ni, trwy gydweithio â'n gilydd.