Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 26 Mai 2021.
Prif Weinidog, y pecyn diweddaraf yr ydych chi'n cyfeirio ato oedd cymorth yr oedd busnesau yn gallu ei weld am y tro cyntaf pan agorodd y gwiriwr cymhwysedd ddydd Llun diwethaf a gadawyd busnesau wedi eu siomi ac wedi cael cam. Nid wyf i'n credu ei bod yn iawn diystyru barn busnesau, fel y gwnaethoch chi, yn fy marn i, wrth arweinydd yr wrthblaid yn gynharach heddiw. Yr hyn sy'n peri mwy o rwystredigaeth i fusnesau yw pan fyddan nhw'n clywed Llywodraeth Cymru yn ailadrodd y frawddeg hon dro ar ôl tro eu bod yn cynnig y cymorth busnes gorau o unrhyw un o wledydd y DU, oherwydd y realiti yw bod y cynnig yn llawer mwy hael yn yr Alban a Lloegr o ran cymorth busnes o dan y cyhoeddiadau presennol yr ydych wedi eu gwneud. Rydym yn gwybod y bydd campfeydd yn Lloegr yn cael £18,000 i ailagor, ac yng Nghymru mai dim ond hyd at £5,000 yw'r swm. Mae'r sector lletygarwch yn Lloegr yn cael grantiau ailagor; yng Nghymru, mae gennym ni dafarndai a sefydliadau bwyta eraill nad ydyn nhw'n cael hawlio oherwydd bod y meini prawf yn rhy llym. Ac wrth sôn am y meini prawf, mae rhestr hir o feini prawf i'w bodloni, fel darparu tystiolaeth bod gostyngiad o 60 y cant neu fwy mewn masnach—mewn trosiant—dros y 12 mis diwethaf, ond mae llawer o fusnesau nad ydyn nhw'n gallu gwneud hynny gan nad oes ganddyn nhw'r cyfrifon hynny wedi eu paratoi hyd yma. Ni allwch chi droi'r cloc yn ôl yn llawn o ran y cymorth busnes a oedd ar goll ym mis Ebrill yng Nghymru, ond fe allwch chi fynd i'r afael â'r bylchau mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol a'u llenwi. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, ailedrych ar y cynlluniau cymorth busnes, sicrhau eu bod yn debyg i gymorth mewn mannau eraill yn y DU, a sicrhau yn benodol nad yw'r meini prawf mor llym ac anhyblyg, a bod busnesau'n gallu cael gafael ar gyllid mewn modd teg a phriodol?