Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 26 Mai 2021.
Rwy'n sylweddoli bod y Prif Weinidog yn dymuno defnyddio tactegau dargyfeiriol dro ar ôl tro, ond mae'n ffaith bod y sylwadau a gyflwynais i chi yn sylwadau gan berchnogion busnes eu hunain sy'n teimlo eu bod wedi cael eu dyrnu yn eu boliau neu gael cyllell yn eu cefnau gan y Llywodraeth bresennol, sef eich Llywodraeth chi, Prif Weinidog. Mae'n ffaith bod yr arian hwnnw gennych chi heb ei ddyrannu yn y gyllideb, ac mae angen yr arian hwnnw ar fusnesau nawr. Nid oes angen iddyn nhw aros mis arall, chwe wythnos arall. Busnesau eu hunain yw'r rhain sy'n dweud bod angen yr arian arnyn nhw nawr, oherwydd bod angen iddyn nhw ail-gyfalafu ar ôl bod yn y rhan o'r Deyrnas Unedig a oedd wedi cau am y cyfnod hwyaf, oherwydd fe wnaethom ni gau cyn i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig wneud hynny.
Ond maes pwysig arall o'r economi i gael cysur gan Lywodraeth Cymru a dealltwriaeth o'r rheolau a'r rheoliadau yw'r sector lletygarwch a'r sector digwyddiadau, yn bwysig. Ac rwy'n gwerthfawrogi bod angen cydbwyso gofalus iawn yn hyn o beth, gan ein bod ni'n gwybod bod yr amrywiolyn Indiaidd yn cael gafael mewn rhannau o'r Deyrnas Unedig ac, yn wir, yma yng Nghymru. Ond beth yw barn y Prif Weinidog ar y rheoliadau y bydd yn rhaid i'r sectorau digwyddiadau yn arbennig ymdrin â nhw wrth symud ymlaen, pan ein bod yn gwybod bod gan rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ddyddiad, sef 21 Mehefin? Rwy'n sylweddoli y gallai'r dyddiad hwnnw symud, Prif Weinidog; rwy'n sylweddoli y gallai'r dyddiad hwnnw symud. Ond rwy'n nodi heddiw fod rheolwr y Celtic Manor—[Torri ar draws.]—mae rheolwr y Celtic Manor yn dweud nad ydyn nhw'n gallu denu busnesau i Gymru oherwydd y rheolau presennol sy'n bodoli. Felly, ydych chi'n gallu cynnig unrhyw ddarlun i ni o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu i bethau weithio ddiwedd yr haf a dechrau'r hydref, gyda'r cyfyngiadau y mae'n rhaid i'r sector digwyddiadau a'r sector lletygarwch eu gweithredu yma yng Nghymru?