Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 26 Mai 2021.
Diolch am y cwestiwn yna ac, yn amlwg, bydd tlodi plant a lliniaru tlodi plant a phob math o dlodi yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Byddaf yn sicr yn siarad â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, i weld pa gynlluniau sydd ganddi o ran mynd i'r afael â phob math o dlodi yn ogystal â thlodi plant a, phan fo'n briodol, rwy'n siŵr y bydd yn cyflwyno datganiad.