Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 26 Mai 2021.
Llongyfarchiadau i chi ar eich swyddogaeth yn Drefnydd. Nawr, fel y gwyddoch chi, mae'r sector twristiaeth wedi dioddef yn fawr dros y 14 mis diwethaf, yn enwedig yn fy etholaeth i, sef Aberconwy, ac mae'n wirioneddol wych, mewn gwirionedd, yrru ar hyd promenâd Llandudno nawr a mynd trwy'r dyffryn a gweld gwestai'n dechrau ailagor yn araf. Fodd bynnag, maen nhw'n dal i fod o dan anfantais fawr yma yng Nghymru o'u cymharu â'r rhai dros y ffin yn Lloegr. Yma, mae gwestai wedi'u cyfyngu gan y rheol 2m, yn Lloegr mae'n 1m neu fwy, felly mae hynny yn effeithio ar faint sy'n cael cadw bwrdd mewn bwytai—mae'n rhaid iddyn nhw gadw at hanner y niferoedd yno. Nawr, mae gennym ni'r gwaharddiad afresymol ar berfformiadau byw mewn gwestai. Nid yw rhai o fy etholwyr i sydd, yn wir, yn cael eu cyflogi fel diddanwyr yn y sector hwn wedi gweithio ers tua 16 mis bellach, ac rydym ni hefyd yn clywed am westai yn colli cwsmeriaid i Loegr—teithiau bws ac ati. Maen nhw eisiau adloniant yn eu gwesty. Felly, a wnewch chi gyflwyno datganiad, Trefnydd, yn sicrhau y bydd ein rheoliadau yn gyson cyn gynted â phosibl er mwyn i westywyr yn Aberconwy allu gweithio i'r rheol 1m neu fwy, a hefyd y cawn ni fynd yn ôl at gael adloniant byw yn ein gwestai? Diolch, Llywydd.