Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 26 Mai 2021.
Diolch a chroeso, Mabon. Fel y gwyddoch, mae gennym Weinidog penodol, neu Ddirprwy Weinidog, dros iechyd meddwl a lles, ac mae Lynne Neagle newydd ddod i'r rôl honno ac, yn amlwg, bydd yr adroddiad hwnnw ar ei desg, yn ei hambwrdd. Rwy'n siŵr, ar yr adeg briodol, y bydd yr adroddiad naill ai'n cael ei gyhoeddi neu bydd datganiad i gyd-fynd ag ef, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n fater difrifol iawn y mae'r Llywodraeth Cymru hon yn ei gymryd o ddifrif, a byddwn yn amlwg yn sicrhau bod pob Aelod yn cael ei hysbysu.