Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 26 Mai 2021.
Llongyfarchiadau mawr ichi ar eich penodiad. Dwi'n edrych ymlaen at gydweithio efo chi, Jeremy. Byddwch chi'n gwybod y byddaf i'n craffu ar eich gwaith chi'n fanwl, yn herio pan fydd angen, a hynny er mwyn gwella profiadau plant a phobl ifanc Cymru a'r rhai hynny sydd yn eu cefnogi nhw. Gobeithio y byddwch chi'n barod i gyfarfod yn rheolaidd. Roedd gwneud hynny efo eich rhagflaenydd yn werthfawr iawn.
Diolch ichi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae yna lawer o waith i'w wneud i ddelio ag effeithiau'r pandemig, fel rydych chi'n ei ddweud, ond, yn anffodus, dydy COVID ddim wedi mynd, ac mae yna risg o drydedd don, a hynny'n gynyddol debygol. Gallai hynny, wrth gwrs, arwain at amharu pellach ar addysg. Yn anffodus, mae yna fylchau yn y data a'r wybodaeth o ran yr amrywiolyn India mewn ysgolion. Rydym ni wedi clywed undebau athrawon yn Lloegr yn pryderu'n fawr am ddiffyg tryloywder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o ran effaith a lledaeniad yr amrywiolyn mewn lleoliadau addysgol. Os ydym ni i weld yr amrywiolyn yn dechrau lledaenu yng Nghymru, mae angen inni ei ddeall o, cyn iddo fo ddod yn broblem ac amharu ar addysg eto. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i chi prynhawn yma ydy: a ydy Llywodraeth Cymru wedi gweld data ar ledaeniad yr amrywiolyn India ac effaith hynny, neu effaith tebygol hynny, ar ysgolion yng Nghymru?
Mae ysgolion wedi gorfod cau eu drysau mewn ardaloedd o Loegr yn ddiweddar, ac mae hyn wedi dechrau digwydd yng Nghymru hefyd, yn anffodus. Ddydd Llun, fe welwyd 335 o ddysgwyr yn ysgol West Park ym Mhorthcawl yn gorfod hunanynysu, ac mae yna beryg go iawn y gwelwn ni aflonyddwch tebyg i'r hyn a brofwyd dros y cyfnodau clo diwethaf. Felly, hoffwn i wybod beth ydy cynlluniau Llywodraeth Cymru i liniaru ar effeithiau hunanynysu a cholledion dysgu ar gynnydd a lles dysgwyr Cymru. Rydym ni yn gobeithio na fydd hyn ddim yn digwydd, ond mae'n rhaid cael sicrwydd fod gennych chi gynlluniau penodol yn ymwneud â chysylltedd, yn ymwneud â phrinder offer, gofod, amgylchiadau addas sy'n angenrheidiol i ddysgu. A gobeithio bod yna gyfle y prynhawn yma i chi amlinellu yn union beth ydy'r cynllun yna.
Yn eich datganiad chi rydych chi'n gosod gweledigaeth o gefnogi plant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig, a dwi'n cytuno yn llwyr efo chi ar hynny. Mae tlodi plant yn parhau i gyfyngu ar gynnydd a lles ein dysgwyr ni ac yn niweidio pob agwedd ar ddatblygiad plant yma yng Nghymru, o bosib yn fwy nag unrhyw ffactor arall.
Dwi yn mynd i droi at fanteision pryd bwyd ysgol am ddim i bawb. Rydym ni'n gwybod y gall pryd maethlon rheolaidd wella perfformiad plentyn yn yr ysgol ac iechyd y plentyn yn gyffredinol, ond rydym ni hefyd yn gwybod bod hanner y plant sydd mewn tlodi yng Nghymru yn colli allan ar brydau ysgol am ddim—dros 70,000 o blant. Mae'r pandemig, wrth gwrs, wedi gwaethygu tlodi, gan gynnwys tlodi plant, ac felly'n effeithio ymhellach ar les ac addysg ein pobl ifanc ni. Felly, fy nghwestiwn olaf i brynhawn yma ydy: a wnewch chi wneud y peth cyfiawn, sef ehangu cymhwysedd prydau ysgol am ddim i blant o deuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol? Pryd fyddwch chi'n amlinellu eich amserlen chi ar gyfer cyflawni hyn? Diolch.