Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 26 Mai 2021.
A gaf innau gymryd y cyfle yma i longyfarch y Gweinidog ar ei phenodiad? Dwi'n edrych ymlaen at weithio yn agos efo hi i geisio dylanwadu gorau y gallaf i ar rai o'r penderfyniadau mawr sydd ar ôl i'w gwneud, wrth gwrs, wrth i'r pandemig barhau. Mae wedi bod yn ddiddorol gwrando ar rai o sylwadau Dominic Cummings heddiw, onid ydy, yn dweud bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud camgymeriadau trychinebus wrth ddelio â'r pandemig. Mae'n bwysig cofio bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio ar lefel pedair gwlad ar lawer o'r penderfyniadau hynny, felly mae'n bwysig cofio ar y pwynt yma bod yna wersi i'w dysgu o hyd i drio gwneud y penderfyniadau gorau.
I droi'n syth at y rheoliadau o'n blaenau ni, rydym ni'n eu cefnogi nhw i gyd, ond mae yna sawl sylw sydd angen ei wneud, dwi'n meddwl. Mae diwygiadau 6 a 7 yn mynd â ni nôl yn bell iawn i ddiwedd Mawrth, dechrau Ebrill. Mae 8 a 9 yn dod â ni ymlaen rai wythnosau, ond mae'n bwysig ein bod ni'n nodi yma bod y rhain yn ddiwygiadau a gafodd eu cyhoeddi yn anterth cyfnod etholiad, efo'r newidiadau yn dod i rym mor ddiweddar â thri diwrnod cyn yr etholiad. A does dim angen i fi dreulio llawer o amser yn trafod arwyddocâd hynny—prin y gallai unrhyw un o unrhyw blaid wleidyddol wadu'r potensial i gyhoeddiadau felly, wrth gwrs, ddylanwadu ar brosesau democrataidd. Ond mae hi yn bwysig crybwyll hyn, achos pe baem ni rywsut yn canfod ein hunain mewn sefyllfa debyg eto, mae eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n dysgu pob mathau o wersi o'n profiad ni dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae hynny'n cynnwys gwersi democrataidd hefyd, yn ogystal â gwersi mwy ymarferol ar sut i ddelio efo pandemig.
Diwygiad 10 wedyn—hwn yn fwy cyfoes. Hyd yn oed wedyn, rydym ni'n sôn am reoliadau sydd bron yn bythefnos oed, ac mi wnaf i apêl yn fan hyn, yn gynnar yn y tymor seneddol newydd, ar y Llywodraeth, mewn cydweithrediad efo'r Pwyllgor Busnes, i chwilio am bob ffordd i allu (1) gwneud cyhoeddiadau yn y Senedd er mwyn gallu eu trafod nhw yn syth, a (2) i gyflymu'r amserlen ar gyfer trafod newidiadau a diwygiadau a rheoliadau o bwys. Faint o weithiau ydym ni wedi trafod rheoliadau sydd eisoes wedi dod i ben cyn iddyn nhw ddod o flaen y Senedd i gael eu cymeradwyo i'w cyflwyno yn y lle cyntaf?
Mae yna nifer o bwyntiau eraill dwi jest am eu gwneud rŵan. Dwi am eu rhoi nhw mewn llythyr i chi, Weinidog, hefyd, er mwyn cael ymateb llawnach, ond a hithau wedi cymryd misoedd lawer i'r Llywodraeth ateb rhai ymholiadau yn y flwyddyn ddiwethaf—bron flwyddyn gyfan yn achos un ymholiad, a dweud y gwir—dwi am fynd drwyddyn nhw yn fan hyn jest i'w rhoi nhw ar y cofnod ac i chi gael eu clywed nhw yn uniongyrchol. O ran lle rydym ni arni yn gyffredinol, rydym ni i gyd yn falch, wrth gwrs, ein bod ni mewn lle positif o ran niferoedd yr achosion a bod y broses frechu yn symud ymlaen yn dda. Mae fy niolch i'n fawr, wrth gwrs, i bawb sy'n rhan o'r broses honno. Dwi yn gofyn i chi chwilio yn ddyfal am ffyrdd o godi mwy o gyfyngiadau mor fuan â phosib, ond wrth gwrs, dim ond pan mae'n ddiogel i wneud hynny, ac rydym ni'n gwybod bod angen bod ar ein gwyliadwriaeth o hyd, yn enwedig o ystyried y twf yn yr amrywiolyn o India.
Felly, dwi am wybod, yn y cyd-destun hwnnw, pa fath o gamau fydd yn cael eu rhoi mewn lle i ymateb i unrhyw dwf sydyn, ac yn wir i drio atal y drydedd don. A fydd yna raglenni brechu dwys, cyfyngiadau lleol, cyfyngiadau teithio i ac o ardaloedd haint uchel, er enghraifft? A hefyd, efo'r dystiolaeth yn glir mai drwy'r awyr y mae'r feirws yn lledaenu yn bennaf, mi hoffwn i wybod pa gamau sy'n cael eu cymryd i ymateb i'r dystiolaeth yna, yn cynnwys rhoi masgiau FFP3 i weithwyr iechyd a gofal sydd mewn cyswllt efo cleifion COVID, a hefyd mi leiciwn i adroddiad yn benodol ar y potensial o gyflwyno camau diheintio yn defnyddio golau uwch-fioled UVC, a allai fod mor werthfawr mewn lleoliadau fel ysgolion, er enghraifft.
Mae yna nifer o bwyntiau eraill y gwnaf eu rhoi, fel dwi'n dweud, mewn llythyr. Mi ydyn ni angen gwybod, er enghraifft, pa gamau fydd yna i ganiatáu pethau fel parkruns i ddigwydd yn fuan—digwyddiadau chwaraeon sydd mor llesol ar gyfer y corff a'r meddwl. Mi wnaf i apêl yn fan hyn ar y funud olaf i chi ganiatáu cefnogwyr i wylio Caernarfon yn erbyn y Drenewydd, ddydd Sadwrn yma. Mae modd gwneud y pethau yma yn ddiogel. Gwnewch bopeth y gallwch chi. Mi fydd yna lythyrau gan Heledd Fychan a gan Luke Fletcher ar faterion economaidd ar ben y materion iechyd yma, ond yn fy mriff i, yn sicr dwi angen gwybod llawer mwy gan y Llywodraeth ynglŷn â chamau i fynd i'r afael â long COVID, sydd yn gymaint o boen i bobl. Mae'n rhestr hir.
I gloi, dwi'n nodi mai dyma wrth gwrs y tro cyntaf i fi allu codi rhai o'r materion yma yn y Senedd newydd ers cyn y cyfnod diddymu, ond fel dwi'n dweud, dwi ddim yn disgwyl atebion llawn rŵan. Mi ddaw'r rheini yn ysgrifenedig yn fuan iawn, gobeithio. Ond mae hi'n fesur, onid ydy hi, o'r gwaith sydd o'ch blaen chi, fel Gweinidog newydd—dwi'n dymuno'n dda i chi—ac mae'n fesur hefyd o'r gwaith sydd o'n blaenau ni fel Senedd i'ch dal chi a'r Llywodraeth i gyfrif.