Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 8 Mehefin 2021.
Diolchaf i'r Aelod. Rydym yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol yn y rhwydwaith rheilffyrdd yn y de-orllewin, gan gynnwys gorsaf newydd yn San Clêr, cerbydau newydd sbon a gwelliannau i orsafoedd ledled y rhanbarth. Mae ein hymgynghoriad ar wella gwasanaethau rheilffyrdd yn y de-orllewin yn cau heddiw.