Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 8 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n eich llongyfarch ar eich ailethol, ac yn dymuno'r gorau i chi. Prif Weinidog, rwy'n dymuno'r gorau i chithau hefyd ar eich ailethol yn Brif Weinidog. Prif Weinidog, ym mis Mawrth, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y cynigion ar gyfer metro bae Abertawe a gorllewin Cymru. Un o fanteision arfaethedig metro bae Abertawe yw manteisio i'r eithaf ar y potensial i orsafoedd gyflymu'r broses o adfywio trefol a darparu safleoedd datblygu mawr. Mae gwerth economaidd buddsoddi yn ein rhwydwaith trafnidiaeth yn hollbwysig. Pa asesiad o'r effaith economaidd sydd wedi ei gynnal i sicrhau y gwireddir y buddion hynny i'r eithaf? Diolch.