Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 8 Mehefin 2021.
Llywydd, buom yn gweithio yn agos gyda threfnwyr digwyddiadau i sefydlu rhaglen o ddigwyddiadau prawf, sy'n cynnwys amrywiaeth o wahanol leoliadau a mathau o ddigwyddiadau. Mae'r adborth cychwynnol o'r digwyddiadau hynny wedi helpu i lywio'r gwaith o ailgyflwyno gweithgareddau awyr agored mawr yng Nghymru, ac roeddwn i'n gallu cadarnhau hynny ddydd Gwener.