Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 8 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rydym yn agosáu at 30 Mehefin, sef dyddiad cau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer ceisiadau y cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE. Dwi'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt Llywodraeth Cymru a'r gefnogaeth rydym ni'n ei darparu o hyd i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yma yng Nghymru.