What Next? Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 1:31, 9 Mehefin 2021

Diolch o galon i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb, a hoffwn gymryd y cyfle i'ch llongyfarch ar eich rôl newydd, a dwi'n edrych ymlaen i gydweithio'n adeiladol efo chi fel llefarydd y blaid ar ddiwylliant.

Yn ganolog i ymgyrch What Next? Cymru oedd yr angen i gryfhau y dimensiwn diwylliannol ar draws Llywodraeth Cymru, a dwi'n croesawu'n fawr y bydd yna strategaeth ddiwylliannol. Ond roedden nhw eisiau gweld cyfrifoldeb am ddiwylliant a chreadigrwydd i aelod llawn o’r Cabinet a sicrhau bod holl adrannau’r Llywodraeth yn cefnogi, yn ariannu ac yn galw am elfen ddiwylliannol gref yn eu gwaith. A chithau, yn anffodus, yn Ddirprwy Weinidog yn hytrach na Gweinidog, sut ydych yn bwriadu sicrhau lle mwy canolog i’r celfyddydau a diwylliant yn Llywodraeth y chweched Senedd, o’i chymharu â'r bumed a'r bedwaredd Senedd, a thaclo’r tanfuddsoddi sydd wedi bod ers dros ddegawd? Fyddwch chi a’r Gweinidog dros yr Economi yn cydweithio’n agos i sicrhau hynny?