Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 9 Mehefin 2021.
Rwy'n croesawu Peter Fox i’w rôl newydd, ac unwaith eto, rwyf wedi ei weld yn ei rôl flaenorol; bellach, mae'n ddyn ifanc disglair yma yn y Senedd.
Ers mis Ebrill 2020, mae busnesau sir Fynwy wedi derbyn dros £50 miliwn mewn cymorth grant, gan ddiogelu dros 1,300 o swyddi. Mae hyn yn ychwanegol at y seibiant blwyddyn o hyd mewn ardrethi busnesau annomestig ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch, a bydd yr Aelod wrth gwrs yn ymwybodol na fydd busnesau cyffelyb yn Lloegr yn mwynhau'r un rhyddhad ardrethi dros yr un cyfnod o amser.