Twristiaeth Hygyrch

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Tom Giffard Tom Giffard Conservative 2:09, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi groesawu'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog i'w rolau newydd? Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda hwy. Yn ddiweddar, cyfarfûm ag etholwyr ym Mae Caswell i weld Surfs Up, cyfleuster lleoedd newid sydd newydd gael ei adeiladu. Mae’r lleoedd newid yn fwy, toiledau hygyrch gydag offer fel teclynnau codi, llenni a—[Torri ar draws.] O, mae'n ddrwg gennyf am wneud hynny. [Chwerthin.] Mae'n ddrwg gennyf.