Economi Cymoedd y De

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 9 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:17, 9 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried y ffordd orau o ddatblygu gweithgarwch economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ymhellach yn yr ardal hon, yn enwedig yn ardal Blaenau’r Cymoedd. Mae dros £19 miliwn eisoes wedi'i gymeradwyo ar gyfer prosiectau sydd o fudd i'n trefi yng Nghymoedd de Cymru drwy'r rhaglen Trawsnewid Trefi, sy'n cynnwys dyraniad o dros £1.5 miliwn ar gyfer pob awdurdod lleol.